Skip to content

Adnoddau dŵr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat), y diwydiant dŵr ac â rhanddeiliaid eraill er mwyn rheoli swm ac ansawdd dŵr yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys:

  • adnoddau a chyflenwadau dŵr;
  • rheoliadau sy’n ymdrin â dŵr; 
  • y diwydiant dŵr.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (dolen allanol)

Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat). Ofwat sy’n gyfrifol am reoleiddio darparwyr dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat).

Ewch i wefan Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (Ofwat) (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr

Mae gofyn i gwmnïau dŵr baratoi a chynnal Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr er mwyn dangos sut y mae cwmni dŵr yn bwriadu cydbwyso’r cyflenwad o ddŵr a’r galw amdano o fewn ei ardal yn ystod y 25 mlynedd nesaf.

Ewch i: The Water Resources Management Plan Regulations 2007 (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ar 20 Mehefin 2012 cyhoeddodd Gweinidogion Cymru Gyfarwyddyd Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr 2012 ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Diben y Cyfarwyddyd hwn yw nodi cychwyn swyddogol y cyfnod nesaf ar gyfer cynllunio’r rheolaeth o adnoddau dŵr.

Rydym wedi cydweithio ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ac Asiantaeth yr Amgylchedd i ddatblygu Canllawiau ar gyfer Cynllunio’r Rheolaeth o Adnoddau Dŵr.

Mae’n rhaid i gwmnïau dŵr ymgynghori ynghylch eu cynlluniau unwaith y cant eu cwblhau a’u cyflwyno i Weinidogion Cymru. Bydd y cynlluniau ar gael ar wefannau’r cwmnïau dŵr.

Ewch i: wefan Dŵr Cymru (dolen allanol)

Ewch i: wefan Dŵr Dyffryn Dyfrdwy (dolen allanol, Saesneg yn unig)