Skip to content

Pacio a gwastraff deunydd pacio

Dolenni perthnasol

Dyma brif strategaeth gwastraff Cymru.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Bocsys gwag
Cynhyrchwyd 10.8 miliwn tunnell fetrig o wastraff deunydd pacio yn y DU yn 2009. Adenillwyd 67% ohono, ac ailgylchwyd 62%. Mae’r cyfanswm wedi cynyddu ers 2007, ond y mae rhagor yn cael ei ailgylchu a’i adennill. Mae’r DU wedi cyrraedd nod y Gyfarwyddeb ar gyfer 2009, ond y mae eto angen inni leihau cyfanswm y gwastraff deunydd pacio, heb amharu ar y cynnyrch y mae’n ei amddiffyn, a chynyddu’r hyn a ailgylchir ac a adenillir.

Mae cyfarwyddeb y GE parthed Deunydd Pacedu a Gwastraff Deunydd Pacedu (2007) yn ceisio lleihau effaith amgylcheddol deunydd pacedu a gwastraff deunydd pacedu trwy:

  • Gyflwyno nodau adennill ac ailgylchu; ac 
  • Annog lleihau ac ailddefnyddio.

Mae’r rheoliadau’n mynnu bod busnesau’n adennill ac yn ailgylchu deunydd pacedu os:

  • Trafodant ragor na 50 tunnell fetrig o ddeunydd pacedu mewn blwyddyn;
  • Y mae eu trosiant yn rhagor na £2 miliwn y flwyddyn.

Mae’r cyfanswm y mae’n rhaid i bob un busnes ei adennill yn dibynnu ar:

  • Cyfanswm y deunydd pacedu y mae’r busnes yn ei drafod;
  • Nodau adennill ac ailgylchu’r busnes am y flwyddyn; a
  • Gweithgaredd deunydd pacedu’r busnes.

Gall busnesau ymgofrestru ag Asiantaeth yr Amgylchedd, neu ymuno â chynllun cydymffurfiaeth cofrestredig.

Ewch i: wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (dolen allanol)

Nodau

Rydym yn ceisio:

  • Lleihau i’r eithaf gyfanswm y deunydd pacedu a ddefnyddir, a’r gwastraff deunydd pacedu a gynhyrchir; a
  • Sicrhau adennill ac ailgylchu cyfran fawr o ddeunyddiau pacedu.

Gosodir nodau adennill ac ailgylchu ar gyfer busnesau’r DU. Mae’r nodau hyn o gymorth i’r DU gyrraedd nodau Cyfarwyddeb y GE. Ceir y nodau presennol ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Ewch i: wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Pacio a gwastraff deunydd pacio (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Cysylltiadau a rhagor o wybodaeth

Amlinellir ein strategaethau a’n gweithgareddau parthed lleihau ac ailgylchu deunydd pacedu yng Nghymru yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff a’r cynlluniau sector cysylltiedig. Adlewyrchant ein cynllun datblygu cynaliadwy ni.

Os dymunwch holi rhagor, cysylltwch â ni trwy e-bost at: waste@wales.gsi.gov.uk.

Gweithiwn â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill er mwyn  sicrhau agwedd gyffredin a chyson ledled y DU. Ceir rhagor o wybodaeth am waith ar Ddeunydd Pacedu a Gwastraff Deunydd Pacedu ar raddfa’r DU ar wefan Defra.

Ewch i: wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Pacio a gwastraff deunydd pacio (dolen allanol, Saesneg yn unig)

“Gwneud y Gorau o Ddeunydd Pacedu” yw’r strategaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ar gyfer y DU. Gesyd gyfeiriad eglur ar gyfer polisi deunydd pacedu’r DU am y ddeng mlynedd nesaf.   Ceir rhagor o gymorth ynghylch rheoliadau’r DU sy’n gysylltiedig â deunydd pacedu a gwastraff deunydd pacedu ar wefannau Net Regs a Busnes Cymru.

Ewch i: wefan Net Regs (dolen allanol)

Ewch i: wefan  Busnes Cymru (dolen allanol)

Asiantaeth yr Amgylchedd yw rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru a Lloegr. Gallwch alw llinell frys 24-awr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar 0800 807 060: mae’n darparu rhagor o wybodaeth ac arweiniad.

Ewch i: Asiantaeth yr Amgylchedd (dolen allanol)