Skip to content

Mannau tawelach, gwyrddach a glanach

Dolenni perthnasol

Rydym yn mynd ati i fonitro, i reoli ac i leihau llygredd yn yr aer yng Nghymru.
Effaith gwahanol fathau o swn amgylcheddol.
Gall ardaloedd o lonyddwch trefol gynnwys mannau agored cyhoeddus. Mae llai o sŵn amgylcheddol yn yr ardaloedd hyn nag ar y ffyrdd o'u hamgylch.
Sut mae dylunio lleoedd yn helpu i sicrhau datblygu cynaliadwy.
Rydyn ni’n rhedeg cynllun grant i wella cymunedau trefol ag amgylchedd llwm, gan ganolbwyntio ar ansawdd yr aer, sŵn amgylcheddol a mannau gwyrdd tawel.

Mae ffurflen gais a chanllawiau ar gael i awdurdodau lleol. Dyddiad cau cyflwyno ceisiadau eleni ydy 30 Ebrill 2013. Ebost greenerplaces@wales.gsi.gov.uk.

Ceisiadau llwyddiannus am brosiectau yn 2012/13

Blaenau Gwent

Byddwn ni’n darparu £50,000 ar gyfer gwaith ar hen safle Gŵyl y Gerddi yng Nglynebwy.

Caiff y cyllid ei ddefnyddio er mwyn:

  • darparu man tawel ger safle adeiladu hirdymor mawr (yr hen weithfeydd dur sy’n cael eu hadfywio); 
  • adfer man gwyrdd segur sydd wedi dirywio;
  • gwneud decio yn ddiogel;
  • gwella mynediad;
  • creu llwybrau coetir;
  • clirio gordyfiant;
  • trwsio pont;
  • plannu planhigion i atal mynediad i adeiladau cyfagos.

Pen-y-bont ar Ogwr

Rydyn ni wedi dyfarnu cyllid rhannol o £42,000 i’r prosiect hwn ym Mharc Lles Maesteg.

Bydd y prosiect:

  • yn darparu llwybrau, seddi, pont a system rheoli mynediad ym Mharc Lles Maesteg;
  • yn annog pobl i ddianc rhag sŵn a llygredd ffyrdd a datblygu diwydiannol cyfagos;
  • ychwanegu panelau gwybodaeth, tirlun a rheoli cynefinoedd i wneud y parc yn dawelach a’i godi i statws Baner Werdd.

Caerffili

Byddwn yn cynnig £65,000 i wella Gwarchodfa Natur Genedlaethol Glaswelltiroedd Aberbargod.

Bydd y gwaith gwella yn cynnwys:

  • codi waliau a rheiliau, cyrbau newydd a maes parcio oddi ar y stryd; 
  • system rheoli mynediad;
  • plannu coed a llwyni brodorol.

Disgwylir i’r coed a’r waliau cerrig newydd fynd i’r afael ag ansawdd yr aer a phroblemau sŵn.

Conwy

Byddwn yn darparu cyllid rhannol o £24,550 i ddatblygu Parc Eirias fel man gwyrdd tawel.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i blannu coed a gwneud gwelliannau ger y pwll addurnol.

Sir Ddinbych

Rydyn ni wedi dyfarnu £70,000 ar gyfer gwaith i ddatblygu Coridor Bywyd Gwyllt Sianel y Rhyl.

Bydd y prosiect yn creu man gwyrdd agored newydd yn y gymuned fel llwybr di-draffig tawel a diogel i gerddwyr a beicwyr. Bydd hyn yn creu amgylchedd gwell i fywyd gwyllt drwy:

  • gloddio’r sianel a chreu llwybrau; 
  • plannu coed a llwyni;
  • creu man picnic.

Sir y Fflint

Byddwn yn rhoi £35,000 i Brosiect Plannu Coed Sir y Fflint. Bydd y prosiect yn plannu coed:

  • er mwyn datblygu Parc Gwepre fel man gwyrdd tawel;
  • mewn lleoliadau trefol eraill lle nad oes coed neu lle mai coed yn brin, a lle mae Cyngor Sir y Fflint wedi’u nodi fel lleoliadau blaenoriaeth uchaf ar gyfer plannu.

Merthyr Tudful

Byddwn yn darparu £15,862 i newid llif y traffig drwy symud llinell ganol y ffordd a thawelu’r traffig ar Fryn Twynrodyn. Bwriad y mesurau hyn yw lleihau llygredd aer a sŵn lleol.

Hefyd dylai’r mesurau hyn:

  • gwtogi gyrru amhriodol;
  • lleihau’r llif traffig ar Fryn Twynrodyn;
  • gwella diogelwch ar y ffyrdd.

Sir Fynwy

Rydyn ni wedi dyfarnu £6,000 i Goed Warren Slade a Park Redding, Cas-gwent: prosiect Gwella Golygfa.

Defnyddir y cyllid er mwyn:

  • creu golygfa drwy glirio llwyni a coed ar wyneb y clogwyn sy’n rhwystro’r olygfa dros Afon Gwy ac Aber yr Hafren; 
  • codi ffensys pyst a rheiliau i wneud y lleoliad yn ddiogel;
  • gosod seddi;
  • gwella wyneb y llwybr a’r fynedfa;
  • darparu deunydd dehongli.

Castell-nedd Port Talbot

Byddwn yn rhoi £27,833 i Brosiect Coed Trefol Port Talbot. Bwriad y cynllun plannu coed hwn yw gwella ansawdd yr aer. Mae’r prosiect hwn wedi dewis pa rywogaethau coed i’w plannu ar sail ymchwil ar eu gallu i dynnu llygredd o’r aer. Bydd y coed hefyd yn gwneud y lleoliadau lle cânt eu plannu yn dawelach.

Casnewydd

Byddwn yn darparu cyllid rhannol o £26,000 i Brosiect Ysgyfaint Gwyrdd Casnewydd i blannu coed ym Mharc Glebelands, a fydd yn helpu i greu amgylchedd tawelach, cynyddu bioamrywiaeth a lleihau llygredd yr aer ger coridor yr M4.

Abertawe

Rydyn ni wedi dyfarnu £82,021 i Brosiect Nawrledu Abertawe. Bydd hyn yn galluogi’r prosiect i brynu a gosod tri arwydd negeseuon traffig ffordd newidiol a fydd yn gysylltiedig â system rhagolygon llygredd aer amser gwirioneddol i leihau tagfeydd a llygredd yr aer yn ystod oriau brig. Bydd y prosiect yn canolbwyntio i ddechrau ar ardaloedd difreintiedig yng Nghwm Tawe isaf o amgylch yr ardal rheoli llygredd yr aer o amgylch Hafod, ond gallai ehangu yn y dyfodol.

Byddwn yn rhoi cyllid rhannol o £10,350 i Barc Llewelyn gwblhau gwaith i gefnogi’r cais am Faner Werdd. Mae’r gwaith yn cynnwys gwella’r fynedfa a chreu perllan gymunedol.

Byddwn yn darparu cyllid rhannol o £8,000 i brosiect Mannau Arbennig Abertawe ger y Môr. Mae’r gwelliannau a fydd yn digwydd yn Man Gwyrdd Cymunedol y Vetch yn cynnwys:

  • creu gwelyau uwch wedi’u ffensio; 
  • ymgysylltu â’r gymuned;
  • plannu coed/rhywogaethau brodorol.

Bro Morgannwg

Byddwn yn darparu £31,400 ar gyfer gwella Man Gwyrdd Coronation Street yn y Barri.

Bydd hyn yn cynnwys gosod seddi ychwanegol a newid planhigion i wella bioamrywiaeth.

Mae’r safle hwn o fudd i drigolion hŷn, gyda’r ddau fan agored cyhoeddus bach yn yr ardal yn canolbwyntio ar chwarae.