Ynni'r Llanw ar Afon Hafren
Gellid harneisio’r ynni hwn drwy gynllun ynni llanw i gynhyrchu hyd at 5% o’r trydan y mae ar y DU ei angen. Gallai hyn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, rhoi sylw i anghenion ynni’r dyfodol a gwneud cyfraniad pwysig at ein targedau ynni adnewyddadwy.
Mae prosiect trawslywodraethol wrthi’n cael ei gynnal i asesu manteision ac anfanteision cynnal cynllun ynni llanw Aber Hafren. Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd sy’n cynnal y prosiect, gyda chefnogaeth frwd Llywodraeth Cynulliad Cymru ac adrannau eraill o’r llywodraeth. Cynhelir y gwaith drwy Astudiaeth Ddichonoldeb a lansiwyd ar 22 Ionawr 2008 ac sy’n adeiladu ar astudiaethau’r gorffennol. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn darparu dadansoddiad cyfoes o’r holl faterion allweddol cyn y gellir penderfynu parhau gyda chynllun ai peidio, pa gynllun i’w ddilyn ac ar ba amodau.
Cyflawnwyd cam cyntaf yr astudiaeth yn gynnar yn 2009. Rhoddodd sylw i 10 cynllun gan gynnwys opsiynau ar gyfer morglawdd, morlynnoedd a thechnolegau amrediad llanw eraill. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ganlyniadau’r cam cyntaf yn gofyn am sylwadau ar y cynlluniau, a lluniwyd rhestr fer o 5 opsiwn o ganlyniad.
Bydd Cam 2 yn rhoi sylw manylach i’r rhestr fer, sef tri morglawdd a dau forlyn. Bydd hefyd yn cynnwys astudiaethau manwl pellach o effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y cynlluniau. Yna, cynhelir ail ymgynghoriad cyhoeddus, yn hwyrach yn 2010, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
Rhagor o wybodaeth
Ceir rhagor o wybodaeth am yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, a’i gwybodaeth am yr astudiaeth, ar ei gwefan.
Ewch i: Ynni'r Llanw ar Afon Hafren: Gwefan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (dolen allanol, Saesneg yn unig)
Ceir rhagor o wybodaeth am Asiantaeth Ddatblygu Ranbarthol De-orllewin Lloegr, a’i gwybodaeth am yr astudiaeth, ar ei gwefan.
Ewch i: Gwefan Asiantaeth Ddatblygu Ranbarthol De-orllewin Lloegr (dolen allanol, Saesneg yn unig)
