Skip to content

Arbed ynni

Cael gwybod pa gyngor a grantiau sydd ar gael i’ch helpu i arbed ynni yn eich cartref.

Nyth/Nest

Os ydych yn cael trafferth i dalu'ch biliau tanwydd gallwch derbyn cymorth a chyngor trwy cynllun newydd - Nyth/Nest. Gallwch hefyd bod yn cymwys ar gyfer cefnogaeth gwellhau effeithlonrwydd ynni eich tŷ.

Targed Lleihau Allyriadau Carbon

Mae’r Targed Lleihau Allyriadau Carbon (CERT) yn annog cwsmeriaid nwy a thrydan domestig i well effeithlonrwydd ynni. Mae cyflenwyr ynni’n buddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni cartref yng Nghymru. Mae hyn yn ategu ein  Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref.

Gallwch gael help oddi wrth unrhyw gyflenwr ynni, pa un ydych chi’n prynu ynni oddi wrtho ai peidio. Rhwng 2008-11 disgwylir y bydd tua £180 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth ar y Targed Lleihau Allyriadau Carbon (CERT), gan gynnwys sut i gael cymorth, ewch i Targed Lleihau Allyriadau Carbon: Adran Ynni a Newid Hinsawdd (dolen allanol, Saesneg yn unig).

Canolfannau Cyngor yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (dolen allanol, Saesneg yn unig) rwydwaith o Ganolfannau Cyngor a all roi cyngor i chi am ffyrdd am ddim a ffyrdd rhad o arbed ynni. Maent yn cynnig Gwiriad Ynni Cartref sy’n rhoi adroddiad personol i chi ar ffyrdd y gallwch arbed ynni yn eich cartref.

Cysylltwch â’ch canolfan leol i gael cyngor a gwybodaeth am ba grantiau sydd ar gael yn eich ardal chi.

Rhadffon: 0800 512012.