Skip to content

Yr Amgylchedd Forol

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Yr Amgylchedd Forol

Y môr

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am ddiogelu ein amgylchedd forol naturiol a sicrhau ei fod yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio’n gynaliadwy, i’w fwynhau am genhedloedd i ddod.

Mae moroedd ac arfordir Cymru yn hynod bwysig i’n ffordd o fyw yng Nghymru.  Mae 60% o boblogaeth Cymru yn byw ac yn gweithio yn y parth arfordirol.  Mae Cymru’n dibynnu llawer ar y masnach, y twristiaeth a’r diwydiant pysgota a ddarperir gan yr arfordir a’r moroedd.  

Mae’n anhygoel bod 70% o arfordir Cymru wedi ei ddynodi oherwydd ei bwysigrwydd amgylcheddol a’i werth esthetig, gyda thair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHE) yng Nghymru.  

Gyda chynnydd yn y diddordeb i ddatblygu ynni adnewyddadwy morol, yn ogystal â’r angen i addasu i’r newid yn yr hinsawdd, mae diogelu, ac eto ddatblygu’n gynaliadwy arfordiroedd a moroedd Cymru yn hanfodol.  

Mae Cangen Forol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am ddiogelu:  

  • yr amrywiaeth a nifer y rhywogaethau morol; 
  • cynefinoedd y rhywogaethau hynny, yn enwedig pan fo niferoedd yn dirywio neu mewn perygl o ddiflannu; ac 
  • yr eco-systemau sy’n cael eu cynnal gan fywyd morol.  

Rydym yn datblygu ac yn gweithredu deddfwriaeth, polisïau, cyfarwyddebau a chanllawiau i sicrhau bod ein moroedd yn goroesi yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn adloniadol.  

Y Polisi Morol

Bydd y Mesur Morol sydd ar ddod yn helpu i sicrhau bod ein moroedd yn lân, yn iach, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.  Bydd yn datblygu systemau ar gyfer rheoli’r amgylchedd forol ac arfordirol yn gynaliadwy.  

Cadwraeth Forol a Bioamrywiaeth

Trwy amrywiol gynlluniau, gellir diogelu cynefinoedd a rhywogaethau bregus a phwysig yn ecolegol rhag pysgota, treillrwydo a mathau eraill o effeithiau dynol.  

Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol

Mae Strategaeth Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol yn dod â rhanddeiliaid ynghyd i sicrhau fod pawb sy’n defnyddio’r môr a’r arfordir yn cael cyfle i gyfrannu at y dull o ddatblygu a defnyddio’r arfordir.  

Trwyddedu Morol

Sefydlwyd yr Uned Caniatadau Morol i greu ‘siop un stop’ ar gyfer trwyddedu  morol yng Nghymru.  

Cyfarwyddebau a Chanllawiau Ewropeaidd

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried Cyfarwyddebau a chanllawiau Ewropeaidd perthnasol wrth ddatblygu polisïau.  Mae hyn yn cynnwys Cyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol, OSPAR a deddfwriaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r môr.  

Partneriaeth Arfordir a Môr Cymru a Phartneriaethau eraill

Mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu ac yn ymgynghori â rhanddeiliaid morol ac arfordirol.  Mae’n hanfodol datblygu a chynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid i sicrhau bod polisïau’n cael eu datblygu, eu deall, a’u gweithredu.  Sefydlwyd a gweithredwyd rhai mentrau partneriaid yng Nghymru i gyflawni hyn.

Dolenni perthnasol

Wybodaeth ar gyfer y diwydiant pysgota yng Nhgymru