Skip to content

Mynd at Wraidd y Mater

Dolenni perthnasol

Gall rhai anifeiliaid a phlanhigion dŵr niweidio ein dyfrffyrdd. Dyma sut i’w rhwystro rhag ymledu.
2010 oedd Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth. Dyma 5 syniad da i chi warchod bioamrwyiaeth Cymru.

Dyma’r amser i baratoi eich gerddi ar gyfer y gaeaf ac efallai eich bod am dacluso eich pwll dŵr. Gall rhai o’r planhigion mewn pyllau dŵr fynd yn broblem pan yn wyllt gan y gallant fygu ein planhigion brodorol, tagu ein dyfrffyrdd, gwaethygu llifogydd a defnyddio’r ocsigen sydd yn y dŵr, allai fod yn niweidiol i bysgod. Ewch at Wraidd y Mater. Gallech helpu’r amgylchedd trwy wneud pethau syml, fel compostio rhywfaint o’r planhigion sydd mewn pyllau dŵr yn ofalus.

Compostio gyda gofal

Dilynwch y cynghorion hyn wrth baratoi eich pwll ar gyfer y gaeaf.

  • tynnwch unrhyw blanhigion nad ydych eu hangen â llaw o’r pwll dŵr, ac yna gael gwared ohonynt ar eich twmpath compostio neu yn eich bin gwastraff gwyrdd. Mae’n well peidio â thynnu gormod o blanhigion, gan eu bod yn rhoi cynefin ac yn cystadlu ac algâu, ar wahân i adegau pan fyddwch yn ceisio cael gwared o rywogaethau ymledol anfrodorol yn gyfan gwbl;
  • peidiwch fyth â’u gosod mewn pwll neu ddyfrffordd. Gallant fynd yn broblem yno’n fuan iawn. Peidiwch â chael gwared o’ch planhigion trwy eu taflu yn y gwyllt. Gallai hyn fod yn anghyfreithlon a gallai’r planhigion niweidio’r amgylchedd;
  • mae’n bosibl i rannau bychain iawn aildyfu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn glanhau eich hesgidiau a’ch offer; a 
  • gwagiwch ddŵr gwastraff yn ddigon pell o nentydd, afonydd, pyllau dŵr, a llynnoedd. Gallwch ddefnyddio dŵr dros ben o bwll ar eich lawnt neu i ddyfrhau planhigion yn eich gardd.

Mae rhagor o wybodaeth am gompostio ar gael ar wefan yr Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol (NNSS).

Ewch i: Compostion’n ofalus: Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Tramor (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Bod yn ymwybodol o beth rydych yn dyfu

Gall planhigion ymledol ddifetha eich pwll a niweidio’r amgylchedd.  Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon. Mae gwybodaeth am rai mathau o blanhigion ymledol, gan gynnwys lluniau, disgrifiadau a chyngor ar sut i gael gwared arnynt ar gael ar wefan NNSS.

Ewch i: Adnabod eich planhigion: Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Tramor (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Atal planhigion rhag ymledu

Mae planhigion dŵr estron sy’n tagu planhigion eraill yn achosi problemau ledled Prydain. Cewch ragor o wybodaeth beth i’w wneud i’w hatal rhag ymledu trwy lawrlwytho ein taflen Mynd at Wraidd y Mater, neu fynd i wefan NNSS.

Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth 2010

Ewch at wraidd y mater wrth glirio eich pyllau dŵr, a byddwch hefyd yn helpu i wella bioamrywiaeth. Mae’r ymgyrch hon yn cefnogi Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth.  

Mae rhagor o wybodaeth ar Flwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth ar gael o dan y dolenni cysylltiedig.