Skip to content

Newid hinsawdd

Dolenni perthnasol

Llwythwch ein canllaw ar sut i wella’ch cartref i’ch helpu i arafu’r newid yn yr hinsawdd.
Mae gwahanol fathau o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar gael i ni. Mae rhai o’r technolegau a’u manteision yn cael eu hesbonio yn y fan yma.
Defaid

Rydym yn egluro sut rydym yn mynd ati i daclo achosion ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn ein Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Mae Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn disgrifio ymrwymiadau uchelgeisiol i daclo achosion a chanlyniadau’r newid yn yr hinsawdd mewn ffordd gynaliadwy.

Rydym am i Gymru fod yn arweinydd byd, ac i fanteisio ar yr holl gyfleoedd a ddaw o ragweld ac wynebu’n hyderus newidiadau mewn byd cyfnewidiol. Mae dyfeisiadau fel y rhyngrwyd a ffonau symudol wedi gweddnewid ein bywydau a’n gwaith mewn ychydig flynyddoedd. Mae gennym gyfle nawr i benderfynu sut beth y gallai Cymru gydnerth a charbon isel fod.

Fodd bynnag, y newid yn yr hinsawdd, o beidio â’i ffrwyno, yw un o’r bygythiadau difrifolaf sy’n wynebu’r byd. Mae’n amharu ar batrwm glawiad, heulwen, gwyntoedd a cheryntau’r môr. Mae’n bygwth elfennau sylfaenol bywyd ac amgylcheddau o gwmpas y byd – er enghraifft, cyflenwadau dŵr, cynhyrchiant bwyd a defnydd tir.

Gallwn wneud rhywbeth ynghylch y newid yn yr hinsawdd, dim ond inni i gyd weithio gyda’n gilydd. Fel cymdeithas, dau beth sy’n rhaid inni ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd:

  • rhaid cynhyrchu llai o nwyon tŷ gwydr trwy newid ein ffordd o gynhyrchu a defnyddio ynni
  • rhaid paratoi at y newidiadau sydd eisoes yn digwydd oherwydd y nwyon tŷ gwydr rydym eisoes wedi’u cynhyrchu.

Mae’r tudalennau hyn yn dweud beth ydym yn ei wneud.