Skip to content

Y Sgwrs Go Iawn

Dolenni perthnasol

Rydym yn datblygu Gwybodaeth am y Farchnad Lafur yng Nghymru i helpu unigolion wneud penderfyniadau deallus ynghylch eu gyrfa a sicrhau bod y sgiliau cywir yn cael eu datblygu ar gyfer ein heconomi
Mae'r adran hon yn disgrifio sut yr ydym yn cefnogi’r rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu’r modd rydym yn cynllunio ac yn cyllido addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru.
Nod yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14i 19 oed yng Nghymru oedd i sicrhau bod gennym ni gymwysterau gwerthfawr a dealladwy sy’n bodloni anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru.

Archebwch eich lle

Ymunwch â'r sgwrs

Twitter

You Tube

Facebook

 
Siaradwr yn y digwyddiad
Dwyddiad nesaf: Dydd Iau 7 Mawrth 2013, Venue Cymru, Llandudno

Galwad gan Llywodraeth Cymru i weithredu er mwyn dod ag arweinwyr busnes, pobl ifanc a rhanddeiliaid eraill ynghyd i drafod materion penodol yw'r Sgwrs Go Iawn. Y nod yw cael dealltwriaeth well o safbwyntiau a barn ein gilydd ar amryw o faterion yn ymwneud â pholisi.

Mae'n gyfle i fusnesau, unigolion, athrawon a hyfforddwyr drafod y rhwystrau gwirioneddol a'r rhwystrau ymddangosiadol i gyflogaeth yn yr hinsawdd bresennol ac ystyried atebion er mwyn galluogi pobl ifanc i gael mynediad at waith a chyflogwyr i recriwtio'n llwyddiannus.    

Cynhelir Y Sgwrs Go Iawn nesaf:

Dydd Iau 7 Mawrth 2013, Venue Cymru, Llandudno

Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael. Er mwyn sicrhau na chewch eich siomi, archebwch eich lle nawr drwy ein ffurflen archebu ar-lein.

Pam y dylech gymryd rhan yn Y Sgwrs Go Iawn?

Os ydych yn berson ifancYoung person at event

Y Sgwrs Go Iawn yw eich cyfle i siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr yng Nghymru a deall y cyfleoedd sydd ar gael a'r ffyrdd o gael mynediad at waith. Am gael swydd dda? Diddordeb mewn llwybr gyrfa penodol? Dysgwch beth sy'n gwahanu ymgeisydd arbennig o'r gweddill a sut i gael eich troed yn y drws yn gyflym... 

Os ydych yn gyflogwrEmployer at event

Dewch i glywed beth sydd gan bobl ifanc i'w ddweud am eich diwydiant. Ddim yn credu bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnoch? Meddwl eu bod wedi'u dadrithio â'r byd gwaith go iawn? Y Sgwrs Go Iawn yw eich cyfle i ddylanwadu ar bobl ifanc heddiw ac, ar yr un pryd, efallai y cewch eich siomi ar yr ochr orau â'r hyn sydd gan bobl ifanc i'w gynnig i'ch busnes.

Os ydych yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â darparu sgiliau / addysgAdvisor at event

A yw pobl ifanc yn cael cyfleoedd ymarferol i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i fyd busnes? A yw'r cymwysterau a ddarperir yng Nghymru yn ddefnyddiol neu'n ddiwerth? Pa mor bwysig a gwerthfawr yw cyngor ar yrfaoedd mewn ysgolion? Cwestiynau tebyg i'r rhain sydd wrth wraidd 'sgwrs go iawn' wych.  Dewch i'r digwyddiad nesaf - dyma eich cyfle i ddysgu gan gyflogwyr a phobl ifanc mewn sesiwn ddifyr a fydd yn helpu i lywio hynt y gwaith o ddarparu ein mentrau sgiliau ac addysg yng Nghymru yn y dyfodol.

Y Sgwrs Go Iawn ar-lein

Dilynwch a chyfrannwch ar-lein drwy twitter, facebook a YouTube. Gallwch hefyd gysylltu â ni gyda'ch barn, eich cwestiynau a'ch profiadau drwy e-bostio RealConversation@wales.gsi.gov.uk 

Ariennir digwyddiadau Y Sgwrs Go Iawn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Cronfa Gymdeithasol Ewrop logo