Skip to content

Y Cyfnod Sylfaen

Dolenni perthnasol

Mae’r ddogfen hon yn egluro gofynion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Cyfnod Sylfaen am blant 3 i 7 oed yng Nghymru.
Y Cyfnod Sylfaen yw’r cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn 3 i 7 oed yng Nghymru, mewn lleoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir.
Mae saith Maes Dysgu i'r Cyfnod Sylfaen, lle gellir gweu gweithgareddau chwarae strwythuredig i mewn i'r profiadau dysgu mewn ffordd sy'n ysgogi'r plant.
Cwricwlwm datblygiadol yw'r Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant rhwng 3 a 7 mlwydd oed yng Nghymru ac mae'n integreiddio Canlyniadau Dymunol gyda Chyfnod Allweddol 1 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Mae'r Cyfnod Sylfaen yn annog plant i fod yn greadigol, yn llawn dychymyg ac i gael hwyl, gan wneud dysgu yn fwy pleserus ac yn fwy effeithiol. Caiff plant gyfleoedd i archwilio'r byd o'u cwmpas a deall sut mae pethau'n gweithio drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy'n berthnasol i'w cam datblygu.

Mae'r cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddysgu arbrofol a chymryd rhan weithredol drwy saith Maes Dysgu:

  • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
  • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Datblygiad Mathemategol
  • Datblygu'r Gymraeg
  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd
  • Datblygiad Corfforol
  • Datblygiad Creadigol

Mae'r Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant rhwng 3 a 7 oed yng Nghymru yn egluro'r cwricwlwm a'r deilliannau o dan y saith Maes Dysgu.