Skip to content

Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ym mis Tachwedd 2009 cymerodd 132 o ysgolion o Gymru ran yn y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA); cyhoeddir y canlyniadau heddiw, Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2010. Dyma’r ail dro mae Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg o gyrhaeddiad addysgol, uchel ei barch hwn.

Trefnir PISA gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), ac mae’n asesu gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr pymtheg oed wrth iddynt nesáu at ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol. Mae dysgwyr yn cael eu hasesu ar sail eu cymhwysedd i fynd i'r afael â heriau bywyd go iawn yn cynnwys darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. 

Mae canlyniadau 2009 yn dangos darlun siomedig o’n perfformiad a’n cynnydd. Darllenwch ymlaen i weld llythyr y Gweinidog at randdeiliaid. 

Cewch weld yr adroddiad cenedlaethol sy’n nodi canlyniadau PISA Cymru ar wefan Sefydliad Cenedlaethol Er Ymchwil i Addysg (SCYA) sef y rheolwr raglen genedlaethol ar gyfer PISA yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r adroddiad rhyngwladol OECD sy’n dangos perfformiad PISA ar draws y 65 gwlad fu’n cymryd rhan, ar gael ar wefan PISA.