Skip to content

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Mewn Addysg: Adroddiad Cynghorydd Arbenigol gan Neil Harries

Mae'r Pwyllgor Dysgu Gydol Oes o'r farn ei bod yn hollbwysig sefydlu diwylliant lle defnyddir technolegau gwybodaeth a chyfathrebu mewn ysgolion i godi safonau addysgol. Dechreuodd y Pwyllgor ei adolygiad polisi o Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn Addysg drwy ganolbwyntio ar y ffordd y mae awdurdodau addysg lleol (AALlau) yn mynd ati i gaffael Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) ar gyfer ysgolion. Fodd bynnag, wrth gasglu gwybodaeth gan y sefydliadau, daeth i'r amlwg bod angen ehangu'r cylch gwaith. Roedd angen ymdrin â'r agweddau canlynol:

  • cysylltedd - y rhwydwaith sydd ei angen i ategu'r strategaeth a'r cyfrifiaduron personol sydd eu hangen ar yr athrawon a'r disgyblion;
  • cymhwysedd - anghenion hyfforddi'r staff addysgu, cymorth technegol a'r lefelau o ran sgiliau y dylai'r disgyblion fod yn eu cyrraedd;
  • cynnwys - y deunyddiau sydd ar gael i athrawon a disgyblion yn y Gymraeg a'r Saesneg i'w helpu gyda'u datblygiad proffesiynol a'u hastudiaethau.

Yn dilyn cystadleuaeth agored cafodd Neil Harries, cyn-Gyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd wedi ymddeol bellach, ei benodi'n Gynghorydd Arbenigol y Pwyllgor ar TGCh mewn Ysgolion. Gwahoddwyd amrywiaeth eang o bobl yng Nghymru i ddod ynghyd ar gyfer cynhadledd i drafod yr adroddiad hwn, er mwyn helpu i wireddu'r hyn a nodwyd ynddo er lles athrawon a disgyblion. Wrth ysgrifennu'r adroddiad, daeth i'r amlwg hefyd y byddai gan unrhyw ddull gweithredu strategol ar gyfer TGCh mewn Addysg oblygiadau i bob sector addysg yng Nghymru ac i ddyfodol economaidd y wlad. Felly, penderfynwyd ehangu'r gwahoddedigion i gynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau hyn.

Llwytho: Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn Addysg: Adroddiad Cynghorydd Arbenigol gan Neil Harries [.pdf 531KB] (Saesneg yn unig)