Skip to content

Adolygiad o`r Ddarpariaeth Hyfforddiant Cychwynnol yng Nghymru

Mae ansawdd y ddarpariaeth HCA yn gyfraniad allweddol i safon addysgu a dysgu yng Nghymru. Pwrpas sylfaenol HCA yw darparu cyflenwad o athrawon newydd gymhwyso o ansawdd uchel ac mewn niferoedd digonol i gwrdd ag anghenion pob ysgol yng Nghymru – beth bynnag fo’u lleoliad daearyddol, cyfrwng addysgu, cyfnod neu anghenion pwnc.

Mae llawer i ymfalchïo ynddo yng nghyraeddiadau ysgolion Cymru heddiw. Ond waeth pa mor llwyddiannus yw ysgolion Cymru, mae’n amlwg y bydd athrawon yfory yn wynebu llawer o sialensiau newydd arwyddocaol. Mae rhai o’r rhain, fel y cynnydd yn nylanwad TGCh, yn effeithio ar athrawon ym mhobman; mae eraill yn unigryw i Gymru wrth iddi ddatblygu ei hagenda bolisi ei hun, y Cyfnod Sylfaen, yr agenda 14-19 a dyheadau Iaith Pawb. Beth sy’n amlwg yw y bydd angen i athrawon Cymru’r dyfodol dderbyn a chroesawu newid; bydd arnynt angen ffurf newydd ar broffesiynoldeb fydd yn briodol ar gyfer ysgolion yfory yng Nghymru.

Mae gan Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) ran bwysig yn y gwaith o helpu’r gwasanaeth addysg yng Nghymru i wynebu’r heriau newydd hyn. Yn gyntaf, mae Cymru angen sicrhau bod ganddi’r nifer iawn o athrawon o safon uchel i gyflawni ei hanghenion presennol ac anghenion y dyfodol. Yna mae arni angen sicrhau bod gan yr athrawon newydd hynny’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth iawn i wireddu potensial llawn agenda addysgol Cymru, sy’n datblygu i fod yn fwy a mwy neilltuol.

Nod yr Adolygiad yw ystyried y ddarpariaeth o Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) yng Nghymru, a chynghori ar sut y gallai’r ddarpariaeth HCA gwrdd yn fwy effeithiol ag anghenion presennol ysgolion Cymru a’u hanghenion tebygol yn y dyfodol yng nghyd-destun polisïau a nodau Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cael eu datblygu.

Diffinnir HCA i gynnwys yr hyfforddiant a ddarperir ar hyn o bryd gan SAU a’r hyfforddiant sy’n seiliedig ar gyflogaeth mewn ysgolion. Bydd angen i’r Adolygiad ystyried a gwerthuso dulliau eraill posibl o ddarparu HCA. Bydd yr Adolygiad yn ymdrin yn unig ag anghenion yr ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Yn benodol, dylai’r Adolygiad archwilio a gwneud argymhellion ar y canlynol:

  • rhagweld beth fydd y galw am athrawon newydd gymhwyso (ANG) yng Nghymru a phrun a yw’n bosibl neu’n ymarferol i gyrsiau HCA yng Nghymru fod yn llawer nes, o ran nifer a math, at anghenion ysgolion yng Nghymru yn unig;
  • datblygu llwybrau presennol a llwybrau amgen i mewn i addysgu er mwyn denu amrediad ehangach o bobl i mewn i’r proffesiwn, yn arbennig grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli a’r rheini sy’n gallu addysgu mewn pynciau blaenoriaethol (sydd, ar hyn o bryd, yn cynnwys Saesneg (gan gynnwys drama), mathemateg, gwyddoniaeth, Cymraeg, ieithoedd modern, dylunio a thechnoleg a chyrsiau TGCh ar y lefel uwchradd), a thrwy gyfrwng y Gymraeg;
  • sicrhau a gwella ansawdd HCA gan roi sylw arbennig i bynciau uwchradd blaenoriaethol; materion yng nghyd-destun y cyfnod sylfaenol; effaith yr agenda 14-19 ar yr angen am athrawon mewn ysgolion a gynhelir; a chyfrwng Cymraeg / Cymraeg fel ail iaith; a materion AAA mewn perthynas â chyrsiau HCA;
  • gan edrych ar y gofynion newydd ar gyfer sefydlu athrawon newydd gymhwyso a’u datblygiad proffesiynol cynnar, ystyried beth yw goblygiadau hynny i HCA a sut y gellir eu hintegreiddio gyda HCA;
  • y cyfle i gynllunio’n strategol y ddarpariaeth HCA a’r cyflenwad o athrawon newydd gymhwyso.

Cliciwch isod ar gyfer:-