Skip to content

Cyhoeddiadau

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyhoeddiadau

Mae cyhoeddiadau yn rhan bwysig o waith yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Drwyddynt, rhoddir arweiniad a chymorth ar nifer fawr o strategaethau a pholisïau.

Cylchlythyrau Addysg

Rydym ni'n cyhoeddi dau gylchlythyr ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant.

Cyhoeddir cylchlythyr Dysg yn wythnosol a'r nod yw darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiadau addysg a hyfforddiant ar ôl 11 oed yng Nghymru.

Gallwch lawrlwytho cylchlythyrau Dysg o’r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau.

Yn ogystal, rydym hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr electronig misol sydd wedi'i anelu'n benodol at ymarferwyr yn y Cyfnod Sylfaen a'r Sector Cynradd.

Gallwch lawrlwytho cylchlythyrau cyn 11 Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau.

Os hoffech dderbyn copi o'r cylchlythyron hyn, anfonwch e-bost at DCELLS.InternalComms@wales.gsi.gov.uk