Y Cynllun Sabothol
Nod y Cynllun Sabothol yw cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu addysgu neu hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog.
Beth yw nôd y cynllun hwn?
Mae’n cynnig hyfforddiant iaith Gymraeg a phedagoaidd i’r bobl hynny sydd eisiau addysgu, darlithio neu hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, ond sydd heb yr hyder a’r derminoleg arbenigol i wneud hynny.
Gyda’r Cynllun hwn mae ymarferwyr yn cael y cyfle i:
• wella eu sgiliau iaith Gymraeg;
• cael gwybodaeth am derminoleg sy’n benodol i’w maes a’u rhaglen pwnc hwy;
• dod i wybod am ac ennyn hunanhyder mewn defnyddio methodolegau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Pwy sy'n gallu ymgeisio?
Mae’r cynllun ar gael i athrawon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, darlithwyr addysg bellach a darparwyr hyfforddiant yn y gweithle. Gallant weithio’n rhan amser neu’n llawn amser yng Nghymru. Gellir ystyried athrawon cyflenwi a darlithwyr addysg uwch hefyd yn dibynnu ar amodau penodol.
Pryd mae'r ceisiadau'n gallu cael eu gwneud?
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer y deuddegfed cwrs (Medi hyd Ragfyr 2009), y trydydd cwrs ar ddeg (Ionawr hyd Fawrth 2010) a'r pedwerydd cwrs ar ddeg (Ebrill hyd Orffennaf 2010).
Gallwch wneud cais nawr trwy gysylltu â'r Tîm Sabothol:
Ffôn: 01443 663770
E-bost:
CynllunSabothol@cymru.gsi.gov.uk
Ble cynhelir yr hyfforddiant?
Cynhelir y cyrsiau mewn dau leoliad: Prifysgol Cymru, Bangor ac ym Mhrifysgol Caerdydd. Disgwylir y bydd yr ymgeiswyr yn teithio bob dydd i'r cwrs hyfforddi, er y rhoddir ystyriaeth i unrhyw ymgeiswyr sy'n cael anhawster. Bydd amserau dechrau'r cwrs bob dydd yn ddigon hwyr er mwyn darparu ar gyfer y bobl hynny sy'n gorfod teithio o gryn bellter.
Yn dilyn adborth gan ymarferwyr, rydym hefyd yn cynnig opsiwn dysgu o bell, gydag elfen breswyl, ym mis Ebrill 2009.
Am beth fydd taliadau'r Cyfnodau Sabothol yn talu?
• Talu am athrawon / staff cyflenwi, yn daladwy i'r coleg/sefydliad/cyflogwr.
• Costau teithio rhesymol yn ôl cyfradd o 40c y filltir am y 100 milltir cyntaf (20c wedi hynny) ar gyfer teithio mewn car neu dderbynebion am gludiant cyhoeddus.
• Costau llety dros nos os yw hynny'n hollol angenrheidiol a thrwy gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer mynychu'r cwrs.
• Costau llety a chynhaliaeth ar gyfer unrhyw gwrs preswyl a ystyrir yn angenrheidiol er mwyn cwblhau'r hyfforddiant.
• Talu am weithiwr llanw am gyfnod sy'n cyfateb i dri diwrnod ar ôl cwblhau bloc ychwanegol yr hyfforddiant tri mis, er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn cael amser digonol i baratoi adnoddau a chynlluniau gwersi yn Gymraeg. Gall dderbyn cymorth dilynol fel gweithdai/dysgu/cymorth gyda methodoleg.
Ni thelir ffioedd cyrsiau ar gyfer y cyfnod cychwynnol, oherwydd y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n talu'r rhain yn uniongyrchol i'r darparydd hyfforddiant.
Oes diddordeb gennych?
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Sabothol:
Ffôn: 01443 663770
E-bost:
CynllunSabothol@cymru.gsi.gov.uk
