Llwybrau Dysgu 14-19
Meddylia amdanat ti a dy ffrindiau – mae pob un ohonoch chi’n unigryw. Rydych chi’n ymddwyn yn wahanol, yn meddwl yn wahanol ac mae gennych chi dalentau, chwaethau ac uchelgeisiau gwahanol. Felly, pam bod rhaid i chi ddysgu yn yr un ffordd?
Mae’n gwneud mwy o synnwyr i roi cyfle i ti ddewis cymysgedd o ddewisiadau yr wyt ti’n mwynhau eu gwneud. Sy’n berthnasol i’r yrfa yr hoffet ti ei dilyn. Pam cyfyngu dy ddysgu i’r ystafell ddosbarth?
Dylet ti gael cyfleoedd i ddysgu pynciau galwedigaethol ac ymarferol megis mecaneg, peirianneg neu ofal, er enghraifft. Yn aml iawn, y ffordd orau o ddysgu pynciau fel y rhain yw cael hyfforddiant a chael profiad gwaith y tu allan i’r ysgol, mewn coleg neu fusnes lle galli ddysgu gan arbenigwyr yn y byd go iawn.
Rydym yn newid y ffordd rwyt ti’n dysgu drwy gyflwyno Llwybrau Dysgu ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a19 oed. Mae’n rhoi cyfle gwych i ti wneud y gorau o’th ddoniau ac i gyflawni dy uchelgeisiau.
Manteision
Meddylia ble'r hoffet ti fod ymhen ychydig flynyddoedd:
- hoffet ti fynd i’r coleg neu, i brifysgol efallai, ar ôl i ti adael yr ysgol?
- a fyddai’n well gennyt ti gael swydd lle galli hyfforddi wrth weithio?
- beth am y tymor hwy? Pa yrfa yr hoffet ti ei chael?
- beth wyt ti am ei gael o fywyd?
Drwy ddilyn dy lwybr dysgu dy hun, byddi di’n gallu dysgu’r sgiliau sydd fwyaf tebygol o dy helpu i gyflawni dy uchelgeisiau a llwyddo yn yr yrfa o’th ddewis.
Rydym yn awyddus i wneud yn siŵr bod y sgiliau a ddysgi yn dy helpu i fod yn llwyddiannus ym myd gwaith.
