Skip to content

Gwybodaeth i gyflogwyr

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Gwybodaeth i gyflogwyr

Dwy ddun sy'n weithio ar beiriant

Os ydych chi’n gwella sgiliau eich pobl, yna bydd eich busnes yn fwy llwyddiannus - mae gwaith ymchwil wedi profi hyn dro ar ôl tro. Felly, os hoffech wella’ch canlyniadau, yna bydd gofyn ichi fanteisio i’r eithaf ar eich tîm.

A dyna beth yw’n rhan ni yn hyn i gyd.

Man cychwyn ein cymorth yw gwasanaeth diagnosteg am ddim, a chyngor am ddim ynghylch hyfforddiant gan ymgynghorydd cymwysedig sydd wedi cael archwiliad ansawdd. Rydym wedi cael adborth ardderchog gan gwmnïau ynghylch y modd y mae ein hymgynghorwyr yn gweithredu, felly gallwch fod yn llawn ffydd ynddynt.

Mae pob un o’r ymgynghorwyr yn arbenigwyr annibynnol, sydd dan gontract gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae pob un ohonynt hefyd yn arbenigwyr Buddsoddwyr mewn Pobl sy’n gweithio ledled y rhan fwyaf o sectorau. Byddant yn rhoi cyfraniad, un ag un, at y sefyllfa unigryw sydd gennych chi.
Fe gewch gymorth i feithrin eich staff a’ch rheolwyr mewn modd â threfn iddo, er mwyn gwella’r canlyniadau a lleihau’r problemau. Mae hynny’n cynnwys cynorthwyo i wneud trefniadau hyfforddiant, a chyrchu arian os oes modd yn y byd.

Buddsoddwyr mewn Pobl

Y mae a wnelo’r Safon Genedlaethol hon â gwella canlyniadau busnes trwy fanteisio i’r eithaf ar eich pobl. Bydd ein hymgynghorwyr yn cynorthwyo cwmnïau i wneud hyn, ac mae’r cyngor ar gael am ddim. Byddwn yn codi tâl am yr asesiad sy’n cynnig barn arbenigol o’r tu allan ynghylch sut yr ydych yn gweithio a sut y dylech wella.

Bydd Clybiau i Buddsoddwr mewn Pobl

Bydd Clybiau i Buddsoddwr mewn Pobl yn cyfarfod dwywaith neu dair y flwyddyn mewn gwahanol fannau yng Nghymru. Fel arfer bydd gan y cyfarfodydd hyn siaradwr gwadd difyr a fydd yn trin a thrafod pynciau yn ymwneud â rheoli pobl.

Gweithdai Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cyfres o weithdai a chyrsiau byr i bobl, o weithwyr goruchwylio hyd at uwch reolwyr. Fe gânt eu darparu ledled Cymru gan ddarparwyr dan gontract; mae’r cyrsiau’n cael cymhorthdal o 70%, felly maent yn cynnig bargen fendigedig.

Dysgu yn y Gwaith

Hyfforddiant cenedlaethol yw hwn sy’n cynnwys hyfforddiaethau, prentisiaethau a’r diplomâu sgiliau modern. Cyfuniad ydynt o waith a hyfforddiant gyda darparwyr, ac maent ar gael o lefel sgiliau sylfaenol hyd at Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) 4. Caiff yr hyfforddiant ei ariannu gan Llwodraeth Cynulliad Cymru ac mae e’n addas ar gyfer unrhyw sefydliad sy’n fodlon i’w weithiwr gael hyfforddiant tra bydd e/hi yn y gwaith. Y dyddiau hyn mae gofyn inni gynnig cyfleoedd i bobl ifanc Cymru ddatblygu eu hunain, ac felly mae prentisiaethau yn bwysig dros ben. Am yr opsiynau ffoniwch learndirect ar 0800 100900 neu gofynnwch i’ch Ymgynghorydd.
Sgiliau Sylfaenol

Mae’n rhaid i Gymru wella sgiliau sylfaenol yn y gweithle. Y diffiniad ohonynt yw ‘y gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad yn Gymraeg neu Saesneg, a defnyddio mathemateg hyd at y safon sydd ei hangen er mwyn gweithredu a datblygu yn y gwaith ac mewn cymdeithas yn gyffredinol’. Bydd eich ymgynghorydd yn gallu eich cyfeirio at gymorth arbenigol.

ReAct – Cronfa Gweithredu dros Golli Gwaith

Cymorth grant digonol ac arian hyfforddiant i gynorthwyo unigolion sydd wedi colli eu swyddi a chyflogwyr sy’n eu cyflogi wedi hynny. Ffoniwch y tîm ar gyfer Cymru gyfan sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Ei rif yw 01792 765826.

ProAct - Hyfforddiant i wella sgiliau pan mae pobl yn gweithio oriau byrion

Pecyn cymorth ariannol er mwyn cynorthwyo busnesau hyfyw i ymdopi â’r dirwasgiad. Mae’n cynorthwyo i dalu am hyfforddiant yn ystod y cyfnodau tawel ac am wella sgiliau staff er mwyn eu hymbaratoi ar gyfer gwellhad yr economi.

Cymorth hyblyg ar gyfer seminarau Busnes

Seminarau difyr, blaenllaw ynghylch prif bynciau busnes, a gynhelir deirgwaith y flwyddyn gan ddechrau ym mis Medi. Rhaid talu pris bychan. Gweler y dyddiadau yma.

O dro i dro bydd cyfleoedd yn cael eu cynnig mewn gwahanol rannau o Gymru, yn aml â chyllid Ewropeaidd. Bydd eich ymgynghorydd yn gwybod amdanynt.

Sylwer: ar gyfer y sector preifat, yn bennaf, y mae ein cymorth; fodd bynnag fe allai rhai gwasanaethau fod ar gael i’r sector cyhoeddus. Ar gyfer cwmnïau sydd â strwythur rheoli y mae ef - hyd yn oed os mai dim ond cwmni perchen-reolwr ydyw sydd ond yn cyflogi gweithiwr neu ddau.

Amser i dderbyn hyfforddiant

Mae cyflogwyr yn cael cyfle i ddysgu mwy am hawliau gweithwyr i ofyn am amser i dderbyn hyfforddiant.

Mae canllawiau ar gael ar wefan Cymorth Hyblyg i Fusnes. Yno caiff cyflogwyr wybodaeth am eu rhwymedigaethau.

Ynddynt caiff cyflogwyr wybodaeth am eu rhwymedigaethau ddeuddeg wythnos cyn y bydd yr hawl i ofyn am amser i dderbyn hyfforddiant yn dechrau ar 6 Ebrill 2010.

Mae canllawiau hefyd yn cael eu cyhoeddi ar wefan DirectGov er mwyn dweud wrth weithwyr sut i fynd ati i wneud cais o dan yr hawl newydd hon.

Cafodd yr hawl i ofyn am amser i dderbyn hyfforddiant ei chynnwys yn y Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Tachwedd 2009.

Caiff yr hawl ei chyflwyno’n raddol a bydd ar gael i weithwyr mewn sefydliadau lle mae 250 neu ragor o weithwyr o fis Ebrill 2010 ymlaen. O fis Ebrill 2011 ymlaen caiff yr hawl ei hymestyn i bob gweithiwr.

Er mwyn cael gair â rhywun ynghylch sut y gallwn ni eich cynorthwyo, ffoniwch 0845 60 661 60 neu anfonwch e-bost at info@skillspeoplesuccess.com.

Dolenni perthnasol

Mynd ati o ddifrif i hyfforddi staff.
Dangos i fusnesau sut i ragori gyda sgiliau.
I fusnesau sydd am weld eu pobl yn rhagori.
Cyngor sgiliau am ddim i'ch Fusnesau/Sefydliadau
Rhoi cyfle i gyflenwyr sydd wedi cofrestru â'r wefan weld y cyfleoedd o ran contractio sydd ar gael yn sector cyhoeddus Cymru.
Rydym yn benderfynol o ddiogelu gwaith, cartrefi a lles ein pobl yn ystod y misoedd i ddod.