Addysg a sgiliau
Rydym ni am i Gymru fod yn wlad sy’n dysgu lle mae dysgu gydol oes o ansawdd uchel yn helpu pobl i wneud y mwyaf o’u cyfleoedd ac i gyrraedd eu potensial.
Yn yr adran hon o’r wefan, cewch wybodaeth am ein polisïau addysg a’r cymorth y gallwn ni ei gynnig i chi.
Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw codi lefelau cyrhaeddiad pobl Cymru drwy ei pholisïau addysg a hyfforddiant. Trwy'r polisïau hyn, bydd yn mynd ati i geisio cyflawni'r lles cymdeithasol ac economaidd sy'n allweddol i ddatblygu economi lewyrchus.
Rydym yn hyrwyddo diwylliant dysgu gydol oes er mwyn helpu i wella cyfleoedd pobl ym mhob cam yn eu bywydau, o'r ysgol i'r coleg neu brifysgol, yn ogystal â thrwy gyfrwng hyfforddiant yn y gweithle.
Y newyddion diweddaraf
24/06/09
Cynhelir Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol 2009 ddydd Mercher 24 Mehefin. Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â fforwm a Ffederasiwn Hyfforddiant Cymru fydd yn arwain y dathliadau yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.
19/06/09
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi ei hymateb i Adroddiad Cylch Gwaith Estyn ar 'Effaith Polisïau Cydraddoldeb Hiliol Ysgolion'.
