Skip to content

Nofio am ddim

Dolenni perthnasol

Lawrlwythwch y strategaeth ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Cynllun i sicrhau bod y genedl yn gwneud mwy o ymarfer corff.
Y sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a ffyrdd egnïol o fyw.
Nofio am Ddim
Os ydych yn 16 oed neu'n iau - neu'n 60 oed neu'n hŷn - gallwch nofio am ddim ym mhwll nofio eich awdurdod lleol.

A hoffech chi gael mynd i nofio am ddim?

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu nofio am ddim yng Nghymru ar gyfer:

  • Plant a phobl ifanc 16 oed ac iau yn ystod pob gwyliau ysgol ac ar benwythnosau;
  • Pobl hŷn 60 oed a throsodd tu allan i wyliau ysgol.

Mae rhai awdurdodau lleol wedi ymestyn y cynllun er mwyn cynnig nofio am ddim i bobl 60 oed a throsodd drwy gydol y flwyddyn. 

Rydym am estyn ein cynllun nofio am ddim i gyn-filwr a phersonel y lluoedd arfog sy'n cymryd gwyliau o'u gwasanaeth.

Y fenter beilot Nofio am Ddim yw'r cyntaf o'i math yn Ewrop. Ei nod yw annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a gwella iechyd a lles y genedl. Mae'n gwneud hyn drwy sicrhau bod gwasanaethau hamdden yr awdurdod lleol ar gael i fwy o bobl.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn buddsoddi £3.6 miliwn bob blwyddyn yn y fenter Nofio am Ddim. Chwaraeon Cymru sy'n rheoli'r cynllun a'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol sy'n ei ddarparu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau Nofio am Ddim ar wefan Chwaraeon Cymru.

Ewch i: wefan Chwaraeon Cymru: Nofio am ddim (dolen allanol, Saesneg yn unig)