Skip to content

Hyfforddi ac Arwain

Dolenni perthnasol

Nod y rhaglen yw cynyddu nifer y disgyblion oedran uwchradd sy'n gwneud ymarfer corff am 60 munud bum gwaith yr wythnos.
Gwella'r cyfle i wneud gweithgarwch corfforol.

Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer yr hyfforddwyr ac arweinwyr o ansawdd sydd yng Nghymru trwy roi cymorth iddynt gael mynediad at addysg a hyfforddiant.

Mae hyfforddwyr ac arweinwyr yn rhan bwysig iawn o'n strategaeth, Anelu'n Uwch, yn ogystal â'n targedau i gynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac mewn gweithgareddau addysg gorfforol.

Gyda rhaglenni fel 5x60 rydym hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ennill cymwysterau arwain. Gall y rhaglenni roi'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ennill rhagor o gymwysterau ac arwain at gyflogaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.4 miliwn bob blwyddyn i ddatblygu hyfforddwyr drwy ein Cynllun Hyfforddi ar gyfer Cymru – “Mwy o Hyfforddwyr Gwell Hyfforddwyr”.

Tystysgrif Hyfforddi y DU

Mae'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer Cymru yn cynorthwyo cyrff llywodraethu cenedlaethol ym maes chwaraeon i roi Tystysgrif Hyfforddi y DU (UKCC) ar waith - tystysgrif hyfforddi gyffredinol ydyw sy'n rhoi sgiliau i hyfforddwyr fel y gallant eu defnyddio ym maes chwaraeon yn gyffredinol ac mewn lleoliadau eraill yn y DU.

Ar wefan Coaching Wales, mae cyngor i hyfforddwyr cyfredol, darpar hyfforddwyr ac arweinwyr yn ogystal â gwybodaeth am sut i fod yn hyfforddwr neu'n arweinydd.    

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coaching Wales.

Ewch i: wefan Hyfforddiant Cymru (dolen allannol)