Skip to content

Chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol

Dolenni perthnasol

Nod Newid am Oes yw eich helpu i fwyta’n dda, symud mwy a byw’n hirach.
Gwybodaeth am sut i gael gafael ar gyllid ar gyfer chwaraeon.
Chwarae golf
Rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon.

Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hanfodol er mwyn hyrwyddo iechyd a gwneud i bobl deimlo'n dda amdanynt eu hunain fel unigolion ac fel cenedl.

Gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol greu ymdeimlad o agosatrwydd - gan dynnu cymunedau at ei gilydd a'u hadfywio.

Nod Llywodraeth Cymru yw:

  • Drwy gyfrwng Chwaraeon Cymru, ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon a rhaglenni y bwriedir iddynt gynyddu gweithgarwch corfforol.
  • Cynyddu nifer yr hyfforddwyr chwaraeon ac athletwyr elît yng Nghymru.
  • Gweithio gyda ffederasiynau chwaraeon yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, i sicrhau bod mwy o brif ddigwyddiadau’r byd chwaraeon yn cael eu cynnal yng Nghymru yn y dyfodol.
  • Gweithio gyda Chyngor Dinas Caerdydd i ystyried pa mor ymarferol fyddai i’r brifddinas gyflwyno cais am gael cynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2026.
  • Estyn ein cynllun nofio am ddim i gyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog sy’n cymryd gwyliau o’u gwasanaeth.

Chwaraeon Cymru

Gweledigaeth Chwaraeon Cymru yw ' Uno cenedl sy’n caru’r campau, lle mae pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes a Chymru’n Genedl o Bencampwyr'.

Roedd tîm Cymru yn y pumed safle yn y tabl medalau ar ddiwedd Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2011 ar Ynys Manaw. Enillodd 31 o athletwyr gyfanswm o 26 o fedalau. Ewch i wefan Chwaraeon Cymru i ddarllen mwy am eu llwyddiannau.

'Tim Ieuenctid Gemau r Gymanwlad yn Rhagori' ar wefan Chwaraeon Cymru (dolen allanol)

Grantiau a chyllid

Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon yn cael ei sianelu trwy Chwaraeon Cymru. Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n hybu chwaraeon a ffyrdd gweithgar o fyw. Mae gan y Chwaraeon Cymru nifer o gynlluniau grant i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a chwaraeon. I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn a sut i wneud cais am gyllid, ewch i dudalennau Grantiau a Chyllid gwefan Chwaraeon Cymru.

Chwaraeon Cymru

Gweledigaeth Chwaraeon Cymru yw ' Uno cenedl sy’n caru’r campau, lle mae pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes a Chymru’n Genedl o Bencampwyr'.

Roedd tîm Cymru yn y pumed safle yn y tabl medalau ar ddiwedd Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2011 ar Ynys Manaw. Enillodd 31 o athletwyr gyfanswm o 26 o fedalau. Ewch i wefan Chwaraeon Cymru i ddarllen mwy am eu llwyddiannau.

Gwefan Chwaraeon Cymru (dolen allanol)