Skip to content

CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru

Dolenni perthnasol

Pennod 12 y Rhaglen Lywodraethu – cyfoethogi bywydau unigolion a chymunedau drwy ein diwylliant a’n treftadaeth.
Lansiwyd y cylch diweddaraf o gynlluniau grant ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd Cymru.
Dyn yn darllen i ddau o blant
Mae CyMAL yn rhoi cyngor a chefnogaeth ariannol i amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd lleol; datblygu a chyflwyno polisïau sy’n addas i Gymru, a rhoi cyngor awdurdodol ar bolisïau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth.

Beth yw gwaith CyMAL?

  • Darparu cyngor a chefnogaeth i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol yng Nghymru
  • Cefnogi a datblygu safonau, arbengigedd a sgiliau proffesiynol
  • Gweinyddu cynlluniau grantiau ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, a darparu cyngor ar ffynnonellau eraill o ariannu
  • Datblygu ymchwil a chasglu ystadegau sylfaenol ar draws y sector
  • Bod yn Adran Noddi ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. 

Mae CyMAL hefyd yn cynghori'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ynghylch y canlynol:

  • Cynllun Indemniad y Llywodraeth (GIS). Mae’r cynllun hwn yn galluogi Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac weithiau sefydliadau nad ydynt yn genedlaethol, i fenthyg gwrthrychau, lle byddai cost yr yswiriant masnachol ar gyfer nifer yr eitemau a’u hansawdd yn afresymol o uchel, trwy roi ymgymeriadau i’r benthycwyr.
  • Cynllun Derbyn yn lle treth (AIL). Mae'r drefn hon yn galluogi trethdalwyr i drosglwyddo gwaith celf ac eitemau sydd o bwys i'n treftadaeth i berchnogaeth gyhoeddus, yn lle talu treth etifeddiaeth neu gyfran o'r dreth honno.