Skip to content

CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru

Tad yn darllen i'w blant

Mae CyMAL yn rhoi cyngor awdurdodol i’r Gweinidog dros Dreftadaeth ar bolisïau; rhoi cyngor a chefnogaeth ariannol i amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd lleol; datblygu a chyflwyno polisïau sy’n addas i Gymru.

Beth yw CyMAL?

Mae CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru  yn adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Trwy gyfrwng CyMAL, mae Llywodraeth y Cynulliad yn buddsoddi’n drwm yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd i ateb gofynion yr 21ain ganrif.

Beth yw gwaith CyMAL?

  • Darparu cyngor a chefnogaeth i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol yng Nghymru
  • darparu cyngor arbenigol ar wella mynediad, dysgu a TGCh
  • Cefnogi a datblygu safonau, arbengigedd a sgiliau proffesiynol
  • Gweinyddu cynlluniau grantiau Llywodraeth y Cynulliad a darparu cyngor ar ffynnonellau eraill o ariannu
  • Datblygu ymchwil a chasglu ystadegau sylfaenol ar draws y sector
  • Bod yn Adran Noddi ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru

Mae CyMAL hefyd yn cynghori'r Gweinidog dros Dreftadaeth ynghylch y canlynol:

  • Cynllun Indemniad y Llywodraeth (GIS). Mae’r cynllun hwn yn galluogi Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac weithiau sefydliadau nad ydynt yn genedlaethol, i fenthyg gwrthrychau, lle byddai cost yr yswiriant masnachol ar gyfer nifer yr eitemau a’u hansawdd yn afresymol o uchel, trwy roi ymgymeriadau i’r benthycwyr.
  • Cynllun Derbyn yn lle treth (AIL). Mae'r drefn hon yn galluogi trethdalwyr i drosglwyddo gwaith celf ac eitemau sydd o bwys i'n treftadaeth i berchnogaeth gyhoeddus, yn lle talu treth etifeddiaeth neu gyfran o'r dreth honno.

 Y Cyngor Ymgynghorol

Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth yn cadeirio y Cyngor Ymgynghorol CyMAL, sy’n cynnwys 12 o aelodau. Mae pedwar aelod o’r Cyngor yn gwasanaethu’n ex officio ar y Bwrdd ar ran Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.