Skip to content

Y Gronfa Cyfrifon Segur

Dolenni perthnasol

Sut bydd y Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu'r arian newydd hwn i brosiectau sydd â blaenoriaeth.

Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dechrau dosbarthu cynilion yr anghofiwyd amdanynt i achosion da yng Nghymru.

 Beth yw'r gronfa?

Pan na fydd rhywun yn defnyddio ei gyfrif mewn banc, cymdeithas adeiladu neu Gynilion Cenedlaethol am bymtheg mlynedd o leiaf ac na fydd modd dod o hyd i'r unigolyn hwnnw, gelwir y cyfrif yn gyfrif 'segur'. Mae miliynau o bunnoedd yn y DU yn cael eu cadw mewn cyfrifon segur. Mae Llywodraeth y DU am ddefnyddio rhywfaint o'r arian hwn ar gyfer achosion da.

O dan Ddeddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008, crëwyd cynlluniau ym mhedair gwlad y DU i ailfuddsoddi'r arian mewn cymunedau lleol. Y Gronfa Loteri Fawr fydd yn gweinyddu'r cynlluniau hyn.  

Sut caiff yr arian ei wario yng Nghymru?

Cynigiodd Gweinidogion Cymru ddwy flaenoriaeth wario yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Cafodd y rhain eu cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Ebrill 2010. Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu arian o gyfrifon segur i:

  • Y rhaglen Camau Cynaliadwy, i annog y gymuned i gymryd camau i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
  • Cynllun i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial, a gaiff ei lansio yn 2012.  

Y Rhaglen Camau Cynaliadwy

Lansiwyd y rhaglen hon sydd werth £620,000 ar 30 Medi 2011. Bydd y cynllun yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar gymunedau i fynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd. Bydd yn ariannu prosiectau i ddarparu cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth i grwpiau cymunedol ar y newid yn yr hinsawdd.

Sut mae gwneud cais?

Cynhelir dau ddigwyddiad briffio yng Nghymru ym mis Hydref 2011 er mwyn i bartneriaid posibl ddechrau cydweithio. Mae canllawiau a ffurflenni cais ar gyfer Camau Cynaliadwy ar gael ar wefan y Gronfa Loteri Fawr. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen cynnig ac unrhyw wybodaeth ategol yw 12 o'r gloch canol dydd, ddydd Gwener 4 tachwedd 2011. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at camaucynaliadwy@cronfaloterifawr.org.uk neu cysylltwch â'r llinell ymholiadau drwy ffonio 0300 1230735.

Ewch i: Gwefan y Gronfa Loteri fawr (dolen allanol)   

Sut caiff y cynllun ei reoli?

Mae corff canolog, y Gronfa Adennill, yn cael ei sefydlu yn y DU. Banc cyfryngu fydd hwn, a fydd yn casglu'r arian o'r cyfrifon segur gan fanciau a chymdeithasau adeiladu sy'n cymryd rhan ar draws y DU. Bydd yn cadw rhywfaint o'r arian wrth gefn i ad-dalu aelodau'r cyhoedd sy'n cofio am eu harian 'coll' ond bydd yn rhoi mwyafrif yr arian i'r Gronfa Loteri Fawr.

Bydd y Gronfa Loteri Fawr wedyn yn rhannu'r arian, drwy ddefnyddio fformiwla y cytunwyd arni, rhwng y gwahanol gynlluniau ym mhob un o bedair gwlad y DU.

Nid yw'r cynllun hwn yn defnyddio arian y loteri. O dan Ddeddf y Loteri Genedlaethol 2006 mae gan y Gronfa Loteri Fawr bwerau i ddosrannu cyllid nad yw'n arian loteri.

Rhagor o wybodaeth

Mae Gorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2010 ar gael ar y wefan UK Legislation (dolen allanol).

Cynhaliwyd y broses ymgynghori rhwng 8 Awst a 14 Tachwedd 2008. Gallwch lawrlwytho'r ddogfen ymgynghori a'r adroddiad yn adran ymgyngoriadau ein gwefan.