Skip to content

Gŵyl Dylan Thomas 100

Dolenni perthnasol

Y corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am hyrwyddo a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru.
Sut i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau ym maes y celfyddydau ledled Cymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gŵyl Dylan Thomas 100 logo
Mae Gŵyl Dylan Thomas 100 yn dathlu bywyd, gwaith ac etifeddiaeth Dylan Thomas

Mae 2014 yn nodi can mlynedd ers geni Dylan Thomas yn Abertawe. Thomas yw un o awduron pwysicaf a mwyaf uchel ei barch Cymru. I ddathlu’r digwyddiad unigryw hwn, mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol partner yn arwain dathliad o fywyd Dylan Thomas, ei waith a’i etifeddiaeth.

Yn y cyfnod yn arwain at 2014, ac yn ystod y flwyddyn ei hun, bydd partneriaid ariannu yn buddsoddi mewn rhaglen o weithgareddau blwyddyn. Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau, bach a mawr, rhyngwladol a lleol, yn tynnu sylw at gyfleoedd artistig, diwylliannol, addysgol a masnachol y gall dathliad unigryw o’r fath eu cynnig. Bydd digwyddiadau yn seiliedig ar bedair thema ac ar weithiau Dylan Thomas.

  • Between the Covers of Books (Addysg a Dysgu)
  • To Wales in My Arms (Twristiaeth)
  • Sailed and Set Dazzling (Rhyngwladol)
  • Digwyddiadau High Hill and Green Fuse - er mwyn ysbrydoli gweithgareddau'r ŵyl a rhoi strwythur iddynt.

Gwneud cais am gymorth ariannol

Gan ystyried pa mor boblogaidd yw Dylan Thomas, rydym yn disgwyl y daw mwy o gynigion am arian i law nag y gallwn roi cymorth iddynt. Mae hyn yn golygu mai dim ond y prosiectau gorau sy’n debygol o gael eu hariannu.

Mae cael syniad da neu brosiect cyffrous yn gam cyntaf hanfodol. Ond mae hefyd angen i chi gyflwyno cynnig sy’n disgrifio’n glir ac yn fanwl beth yr ydych am ei wneud.

Rydym am i chi deimlo eich bod wedi gallu cyflwyno eich syniadau a’ch cynnig mewn ffordd sy’n darbwyllo. Mae’r pecyn gwybodaeth ariannu isod yn amlinellu’r broses ariannu.

Ewch i: Gŵyl Dylan Thomas 100 (dolen allanol)

Ewch i: Cyngor Celfyddydau Cymru (dolen allanol)