Skip to content

Pobl ifanc yn y system Cyfiawnder Troseddol

Dolenni perthnasol

Mae costau cymdeithasol ac economaidd troseddwyr ifanc yn uchel - ar gyfer cymdeithas, gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau, dioddefwyr, ac ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hynny sy’n troseddu.
Amryw o gyrff yn gweithio gyda'i gilydd sy'n ffurfio'r system cyfiawnder ieuenctid.
Rydym wedi ymrwymo i wneud egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn realiti i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan yw conglfaen ein holl bolisïau ar gyfiawnder cymdeithasol. Cafodd ei gyhoeddi ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2004.

Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan

Ffrwyth cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ac asiantaethau lleol yw'r strategaeth hon i ddarparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer atal troseddu ac aildroseddu ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r holl waith hwn yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n ei gwneud yn ofynnol ystyried hawliau'r person ifanc.

Yn yr hirdymor, ei nod yw gostwng cyfraddau troseddu ymhlith pobl ifanc yng Nghymru mewn ffordd wirioneddol a sylweddol.

Egwyddorion allweddol y strategaeth

Y ffordd fwyaf effeithiol o atal troseddu ymhlith ieuenctid a diogelu lles plant a phobl ifanc yng Nghymru yw eu hatal rhag dod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid yn y lle cyntaf.

Gellir cadw cydbwysedd rhwng buddiannau'r plentyn neu'r person ifanc a buddiannau'r gymuned ehangach a'r rhai a allai ddioddef yn sgil y troseddu drwy:

  • ymyrraeth gynnar
  • mesurau cyfiawnder adferol
  • cosbau priodol
  • adsefydlu â chymorth

Cynllun Cyflenwi 2009-11

Rydym wedi gweithio gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i adolygu'r broses o weithredu'r strategaeth, a'r strwythurau sy'n sail iddi. Hynny er mwyn cydnabod y gwahaniaethau cynyddol i'r cyd-destun ar gyfer darparu gwasanaethau yng Nghymru ers datganoli.

Mae fframwaith newydd bellach wedi'i ddatblygu ar gyfer darparu gwasanaethau, sy'n cynnwys amcanion mwy penodol. Amlinellir y fframwaith hwn yng Nghynllun Cyflenwi 2009-11, a gafodd ei gyhoeddi yn 2009. Gellir gweld copi ohono drwy glicio ar y ddolen ar ochr dde'r dudalen hon o dan Dolenni Perthnasol.