Skip to content

Yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol

Dolenni perthnasol

Sefydlwyd y rhwydwaith gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Tachwedd 2011.
Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Sefydlwyd yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol yn 2010, ac fe’i noddir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Addysg.

Cafodd ei sefydlu i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r system Cyfiawnder Teuluol, gan edrych ar gyfraith gyhoeddus a phreifat.

Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y panel ym mis Tachwedd 2011. Mae’n nodi argymhellion pellgyrhaeddol ar gyfer diwygio’r system cyfiawnder teuluol er mwyn mynd i’r afael ag oedi a sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu.

Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi ymateb i’r adroddiad hwn: DU Adran Addysg gwefan (Saesneg yn unig)

CAFCASS Cymru

Roedd yr adolygiad yn cydnabod y manteision a ddaw o barhau â’r drefn lle bo CAFCASS Cymru yn cynnig cyngor arbenigol ac annibynnol ar waith cymdeithasol i’r llysoedd yng Nghymru.

Bydd hyn yn parhau’n gyfrifoldeb Gweinidogion Cymru.  

Bydd Bwrdd Cyfiawnder Teuluol newydd hefyd yn cael ei sefydlu erbyn mis Ebrill 2012. Bydd hwn yn darparu mwy o arweiniad a chydlyniad o fewn y system cyfiawnder teuluol, a bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymru.

Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol

Hefyd mae’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi y bydd yn creu Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol yng Nghymru.

Bydd y rhwydwaith hwn yn cefnogi ac yn llywio gwaith y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol a’r cynrychiolwyr o Gymru sy’n aelodau ohono.

Diweddariad ar yr ymateb i’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol (dolen allanol)

Rhianta ar y Cyd ar ôl i Deulu Wahanu

Mae’r Adran Addysg a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymgynghori ar gamau newydd sy’n ymwneud â rhieni sy’n gwahanu. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, dylai’r ddau riant chwarae rhan arwyddocaol ym magwraeth eu plentyn. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd 5 Medi a gellir ei weld drwy ddilyn y ddolen hon (Saesneg yn unig)