Skip to content

Arolygu a gwerthuso

Dolenni perthnasol

Er mwyn llawn deall y datblygiad ym mhob safle, defnyddiwyd cyfweliadau ansoddol ag unigolion a grwpiau trafod ei weithredu.

Mae’r rhaglen ceisio rhoi gwell cefnogaeth i deuluoedd, os yw’r ffaith fod y rhieni yn camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar les y plant.

Mae hefyd yn ceisio gwella ansawdd gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion ledled Cymru.

Gwerthuso Cenedlaethol

Mae SQW Ltd wrthi’n gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglen Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (GICD) yn y tair ardal arloesi (Casnewydd, Merthyr/Rhondda Cynon Taf a Wrecsam). Mae SQW yn cynnal ymchwil, yn dadansoddi ac yn cynghori ar ddatblygu economaidd a datblygu cymdeithasol cynaliadwy.  

Cyhoeddwyd adroddiad gwerthuso interim ym mis Medi 2012. Caiff adroddiad interim pellach ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2013 a bydd yr adroddiad gwerthuso terfynol ar gael yn yr hydref 2013.

Rhaglenni arolygu

Mae GICD yn rhan o raglenni perfformio ac arolygu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Gwefan AGGCC

Gwefan AGIC

Yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGC)

Sefydlwyd AGGC i gefnogi awdurdodau lleol, i gyflymu’r broses o wella ac i hybu rhagoriaeth ym maes gwasanaethau cymdeithasol.

Rydym wedi sicrhau bod yr wybodaeth sy’n deillio o waith helaeth yr Ardaloedd Arloesi ar gael i bawb ar wefan AGGC