Skip to content

Teuluoedd yn Gyntaf

Dolenni perthnasol

Mae lleihau tlodi, yn arbennig tlodi cyson, yn rhai o'n hardaloedd a'n cymunedau tlotaf yn ganolog i agenda polisi Llywodraeth Cymru.
Canllawiau ariannol Teuluoedd yn Gyntaf a gwybodaeth i awdurdodau lleol.

Cynlluniwyd Teuluoedd yn Gyntaf er mwyn gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae’n pwysleisio ymyrryd yn fuan ac atal problemau mewn teuluoedd, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn tlodi. Mae'n gweithio law yn llaw â’r cymorth sy'n cael ei gynnig gan ein rhaglenni eraill:

  • Dechrau'n Deg;
  • Cymunedau yn Gyntaf;
  • Y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd.

Gweithio gyda’r teulu cyfan

Y ffordd orau o gefnogi plant, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn tlodi, yw trwy weithio gyda'r teulu cyfan. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall cymorth cynnar olygu bod teuluoedd yn llai tebygol o ddatblygu anghenion mwy cymhleth a chostus.

Mae angen lefelau gwahanol o gymorth ar deuluoedd, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Bydd angen cymorth mwy dwys i fynd i’r afael â phroblemau cymhleth. Ond mae’n bosib  y bydd angen help ar rai teuluoedd i ddatrys problemau bach, rhag iddyn nhw waethygu.

Mae angen help nifer o wahanol dimau a gwasanaethau i gefnogi teulu, yn aml. Rydym am sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gweithio'n dda gyda'i gilydd fel bod y teulu'n cael cefnogaeth dda.

Byddwn yn cydweithio ag awdurdodau lleol, ac asiantaethau eraill, i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cydgysylltu i ddiwallu anghenion lleol.

 

Y camau nesaf

Mae pob awdurdod lleol wedi datblygu Cynllun Gweithredu Teuluoedd yn Gyntaf (2012-17).  Bydd y cynlluniau'n cael eu cyflwyno ar lefel leol gyda sefydliadau partner o dan gyfarwyddyd Grwpiau Cyflenwi Teuluoedd yn Gyntaf.   Bydd tîm Teuluoedd yn Gyntaf  Llywodraeth Cymru'n cydweithio'n agos â phob awdurdod lleol drwy gydol y rhaglen bum mlynedd.

Rhagor o wybodaeth

Os ydych yn gysylltiedig â darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ac am wybod mwy am y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn eich ardal chi, cysylltwch â’r Cydgysylltydd Teuluoedd yn Gyntaf yn eich awdurdod lleol. Mae'r manylion i'w gweld ar eich tudalen ardal leol.   

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ei chyfanrwydd, cysylltwch â familiesfirst@wales.gsi.gov.uk neu 02920 82 3053.