Cwestiwn 1 Mae fy ymgeisydd wedi clywed y gall gael swm de minimis o €200,000 dros gyfnod o dair blynedd. O ble y daw'r arian yma?
Mae'n gamdybiaeth bod de minimis yn arian sydd ar gael at ddefnydd mentrau. Mae de minimis yn rhoi sicrwydd ynghylch cymorth gwladwriaethol ar gyfer symiau bach o gymorth (hyd at €200,000) a roddir drwy adnoddau cyhoeddus ond nid yw'n gronfa o arian ynddo'i hun.
Cwestiwn 2 Ai ar gyfer mentrau bach a chanolig yn unig y mae de minimis yn cael ei ganiatáu?
Gall de minimis gael ei ddyfarnu i unrhyw fath o fenter beth bynnag y bo ei faint oherwydd cred y Comisiwn na fydd symiau mor fach o arian yn cael fawr ddim effaith ar fasnach a chystadleuaeth.
Cwestiwn 3 A yw de minimis ar gael i bob math o fenter ym mhob sector?
Nid yw'r rheoliad de minimis yn berthnasol i'r sectorau canlynol:
- cymorth i sectorau pysgodfeydd a dyframaethu yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000;
- cymorth sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cynhyrchion amaethyddol ar lefel sylfaenol fel y'u rhestrwyd yn Atodiad 1 i'r Cytundeb yn yr achosion a ganlyn:
- pan fo swm y cymorth wedi'i bennu ar sail pris cynhyrchion o'r fath a brynwyd oddi ar y cynhyrchwyr sylfaenol neu faint a brynwyd neu faint a roddwyd ar y farchnad gan y fenter dan sylw;
- pan fo'r cymorth yn amodol ar gael ei drosglwyddo'n rhannol neu'n gyfan gwbl i'r cynhyrchwyr sylfaenol;
- cymorth ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag allforio;
- cymorth sy'n ddibynnol ar ddefnyddio nwyddau domestig yn hytrach na nwyddau a fewnforiwyd;
- cymorth i'r sector glo, fel y'i diffiniwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 1407/2002;
- cymorth i gael cerbydau cludo nwyddau ar y ffyrdd ac a roddir i fentrau sy'n ymwneud â chludo nwyddau ar y ffyrdd er mwyn eu llogi neu'n dâl am rywbeth arall;
- cymorth i fentrau sydd mewn anawsterau;
- caniateir o dan rai amgylchiadau roi cymorth i fentrau ar gyfer gweithgareddau'n gysylltiedig â phrosesu a marchnata cynhyrchion o dan atodiad 1;
- cyfyngir ar y cyfanswm a ganiateir i fentrau sy'n ymwneud â'r sector cludiant ar y ffyrdd i €100,000.
Cwestiwn 4 Sut y mae trosi cyfanswm y swm de minimis o €200,000 yn bunnoedd
Gall y trothwy de minimis gael ei drosi'n bunnoedd drwy ddefnyddio'r gyfradd gyfnewid briodol a gyhoeddir bob mis gan y Comisiwn Ewropeaidd (ar gael ar y wefan ganlynol): http://ec.europa.eu/budget/inforeuro/index.cfm?fuseaction=currency_historique¤cy=GBP&Language=en.
Y gyfradd gyfnewid sy'n gymwys yw'r un a gofnodwyd ar ddiwrnod dyfarnu'r swm de minimis (hynny yw y dyddiad yr anfonwyd y llythyr ynghylch y taliad de minimis), nid y dyddiad talu.
Cwestiwn 5 Os yw cymorth de minimis yn cael ei ddyfarnu ym mis Tachwedd 2008 ac os na fydd yn cael ei dalu tan fis Mai 2009, ym mha flwyddyn ariannol y caiff ei gyfrif?
Mae cymorth de minimis yn cael ei gyfrif o'r dyddiad y caiff ei ddyfarnu, hynny yw dyddiad y llythyr dyfarnu. Os cafodd llythyr yn dyfarnu cymorth de minimis ei anfon ym mis Tachwedd 2008 heb i'r arian gael ei dalu tan fis Mai 2009, ystyrir bod y cymorth de minimis yn dechrau ym mlwyddyn ariannol 2007/08. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd o dan y rheoliad de minimis newydd gan mai'r flwyddyn ariannol gyfredol a'r ddwy flynedd flaenorol yn unig y mae angen eu cyfrif wrth fynd ati i gyfrifo faint o gymorth de minimis a dalwyd eisoes.
Cwestiwn 6 At ba ddibenion y gall de minimis gael ei ddefnyddio?
Gall de minimis gael ei ddefnyddio at unrhyw ddibenion gan gynnwys rhoi cymorth ar waith. Er hynny mae rhai sectorau wedi'u heithrio - gweler cwestiwn 3.
Cwestiwn 7 Pa gyfnod o dair blynedd ariannol y bydd angen i mi ei ddefnyddio wrth gyfrif faint o arian de minimis mae'r ymgeisydd wedi'i dderbyn?
Bydd angen i chi ddefnyddio'r flwyddyn gyfredol a'r ddwy flynedd ariannol flaenorol. Er enghraifft os dyfernir de minimis ym mis Ionawr 2009, byddech yn cyfrif ar sail blynyddoedd ariannol 2008/2009, 2007/2008 a 2006/2005. Ar gyfer cymorth a roddir ar ôl 1 Ebrill 2009, byddech yn cyfrif ar sail blynyddoedd ariannol 2009/2010, 2008/2009 a 2007/2008.
Cwestiwn 8 Mae ymgeisydd wedi gwneud cais am arian o dan gynllun lle mae de minimis ar gael. Nid yw wedi cyrraedd cyfanswm yr arian de minimis sy'n bosibl ond bydd y dyfarniad hwn yn golygu y byddant yn croesi'r trothwy. Alla i roi cyfran yn unig o'r arian maen nhw wedi gofyn amdano?
Na allwch. Nid yw'r rheoliad de minimis yn caniatáu i ran o'r dyfarniad yn unig gael ei roi. Os bydd ymgeisydd felly yn gofyn am swm penodol a fydd yn golygu eu bod yn mynd y tu hwnt i'r trothwy de minimis o €200,000, ni fydd modd iddynt gael dim.
Cwestiwn 9 Alla i gyfuno de minimis gyda ffurfiau eraill o gymorth gwladwriaethol?
Ar hyn o bryd, nid yw'r rheoliad de minimis yn caniatáu cyfuno de minimis â mathau eraill o gymorth gwladwriaethol (er enghraifft cymorth a ddaw o dan un o'r eithriadau bloc neu gynllun penodedig arall).
Cwestiwn 10 Mae arian wedi'i roi i ymgeisydd redeg cynllun o dan y trefniant de minimis ar ein rhan. Beth y mae angen iddyn nhw ei wneud i sicrhau bod telerau'r rheoliad de minimis wedi'u bodloni?
O dan y rheoliad de minimis, mae'n ofynnol i'r rheini sy'n rhoi'r cymorth sicrhau, cyn rhoi'r arian, nad yw'r sawl sy'n ei dderbyn wedi mynd dros y trothwy de minimis. Rhaid i'r sawl sy'n gweinyddu'r cymorth ddweud wrth unrhyw gorff sy'n derbyn y cymorth mai cymorth de minimis ydyw gan gyfeirio'n benodol at y Rheoliad De minimis 1998/2006 fel y'i cyhoeddwyd yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd dyddiedig 28 Rhagfyr 2006.
Argymhellir bod gweinyddwyr y cynllun yn cael eu gwirio er mwyn sicrhau bod ganddynt y gweithdrefnau monitro cywir yn eu lle.
Cwestiwn 11 A yw de minimis yn cwmpasu dyfarniadau ariannol yn unig?
Gall de minimis gael ei ddefnyddio i roi sicrwydd ar gyfer gwasanaethau di-dâl neu wasanaethau â chymhorthdal a roddir i fentrau megis cyngor busnes, hyfforddiant ac ati. Fodd bynnag, at ddibenion de minimis, rhaid pennu gwerth ariannol ar gyfer y gwasanaethau hynny a fyddai'n gyfatebol i'r hyn y byddai'n rhaid i'r fenter dalu amdano ar y farchnad agored. Os yw'r sawl sy'n derbyn y cymorth yn cyfrannu at gost y gwasanaeth, dylid defnyddio de minimis ar gyfer swm y cymhorthdal.