Skip to content

Ardaloedd Menter Cymru

Dolenni perthnasol

Mae ail rownd y Cynllun Ardrethi Busnes wedi agor ac mae dros £4 miliwn ar gael yn y flwyddyn ariannol bresennol i ymgeiswyr.
Mae Ardaloedd Menter yn cynnig cymelliannau penodol i ddenu busnesau newydd i leoliadau deniadol yng Nghymru
Rydym yn cefnogi buddsoddiad o dan arweiniad diwydiant mewn 9 sector allweddol.
Mae Ardrethi Annomestig (NDR) hefyd yn cael eu galw’n Ardrethi Busnes. Treth ar eiddo yw’r rhain a delir ar eiddo annomestig.
Llun o'r awyr o Caerdydd
Mae ein Hardaloedd Menter yn cynnig cymhellion arbennig i ddenu busnesau newydd i leoliadau ardderchog yng Nghymru - gan ddefnyddio dull Cymreig sy'n ffitio i'r dim.

Ein nod yw gwneud economi Cymru yn fwy cystadleuol trwy ein Hardaloedd Menter - ac nid trwy gopïo'r hyn a wneir yn Lloegr.

Bydd pob lleoliad yn canolbwyntio ar un sector targed allweddol. Mae canolbwyntio ar sectorau'n rhan annatod o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i greu swyddi ac i ddatblygu twf cynaliadwy.

Hefyd, mae'r dull gweithredu hwn yn pennu'r rôl y gall llywodraeth ddatganoledig ei chwarae wrth ddarparu'r amodau a'r fframwaith gorau er mwyn galluogi’ch cwmni i ffynnu ac i lwyddo.

Mae saith lleoliad wedi'u cadarnhau:

  • Caerdydd - a fydd yn canolbwyntio ar y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
  • Ynys Môn- a fydd yn canolbwyntio ar y sector ynni
  • Glannau Dyfrdwy - a fydd yn canolbwyntio ar y sector gweithgynhyrchu uwch
  • Ardal Fenter Sain Tathan Maes Awyr Caerdydd - a fydd yn canolbwyntio ar y sector awyrofod
  • Glynebwy - a fydd yn canolbwyntio ar y sector gweithgynhyrchu
  • Eryri - a fydd yn canolbwyntio ar y sector ynni, amgylchedd a TGCh
  • Dyfrffordd y Ddau Gleddau - a fydd yn canolbwyntio ar y sector ynni ac amgylchedd

Ewch i: www.ardaloeddmenter.cymru.gov.uk