Skip to content

Dod â'ch busnes i Gymru

Cyfarfod busnes gyda golygfeydd hardd o Fae Caerdydd
Rydym yn creu’r amgylchedd iawn i fusnes dyfu a ffynnu, gan ddarparu rhwydweithiau, datblygu sgiliau, gweithleoedd iach a chefnogi ymchwil a datblygu.

Rydym wedi bod yn helpu cwmnïau ymsefydlu a ffynnu yng Nghymru ers degawdau. Yn y 40 mlynedd diwethaf, mae dros 700 o gwmnïau rhyngwladol wedi ymsefydlu yma.

Yn 2011-12, fe wnaeth buddsoddiadau tramor uniongyrchol i mewn i Gymru greu a diogelu 3,706 swyddi, sef cynnydd o 4.57% ar 2010-11.

Mae'r prosiectau mewnfuddsoddi tramor wedi darparu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr ar gyfer Cymru yn 2011-12 yn cynnwys Cardiff Aviation, FirstSource, Ford, Sony (LED), Control Technique and Conduit UK, ymhlith eraill.

10 rheswm o blaid Cymru:

  • Gweithlu ffyddlon hynod grefftus
  • Ymchwil academaidd sy’n cael ei harwain gan y diwydiant
  • Llywodraeth sydd o blaid busnesau
  • Yn gyfleus i ganolfannau’r DU a’r Farchnad Ewropeaidd
  • Seilwaith cyfathrebu
  • Eiddo masnachol a diwydiannol sydd wedi’i brisio’n gystadleuol
  • Mynediad at gyllid
  • Rhwydweithiau diwydiannol
  • Cefnogaeth barhaus
  • Bywyd o ansawdd arbennig o dda

Cymru yw’r lle i chi a’ch tîm fyw, gweithio ac adeiladu busnes ffyniannus.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan ar gyfer busnesau tramor. (Dolen allanol, Saesneg yn unig)