Busnes a'r economi
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i helpu cwmnïau i ffynnu yng Nghymru. Mae busnesau cryf, arloesol a chystadleuol yn hanfodol i’n heconomi. Mae economi sy’n ffynnu yn codi safon byw gan wella iechyd a lles pobl a chymuneda
Ewch i wefan cymorth i fusnesau Llywodraeth y Cynulliad (dolen allanol) neu ffoniwch 03000 6 03000 am wybodaeth, cyngor a help.
Gall ein harbenigwyr gynnig i chi gymorth ar bob agwedd ar y gwaith o ddechrau eich busnes eich hun ac ymestyn eich busnes i allforio eich cynnyrch a dod â'ch busnes i Gymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael, eiddo neu'r rhwydweithiau band eang a Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yng Nghymru, ewch i'n gwefan.
Gwybodaeth ddiweddaraf
Y newyddion o'r ystafell newyddion ar-lein
Heddiw, croesawodd Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Cymru gyhoeddiad gan Corus y bydd yn buddsoddi £185 miliwn yn y gwaith dur ym Mhort Talbot.
Dolenni perthnasol
Mae Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd yn nodi’r rhan y gall llywodraeth ddatganoledig ei chwarae i ddarparu’r amodau a’r fframwaith gorau i alluogi’r sector preifat i dyfu a ffynnu.
