Busnes a'r economi
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i helpu cwmnïau i ffynnu yng Nghymru. Mae busnesau cryf, arloesol a chystadleuol yn hanfodol i’n heconomi. Mae economi sy’n ffynnu yn codi safon byw gan wella iechyd a lles pobl a chymuneda
Am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i fusnes, ewch i wefan Cymorth Hyblyg i Fusnes Llywodraeth Cynulliad Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000.
Gall ein harbenigwyr gynnig i chi gymorth ar bob agwedd ar y gwaith o ddechrau eich busnes eich hun ac ymestyn eich busnes i allforio eich cynnyrch a dod â'ch busnes i Gymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael, eiddo neu'r rhwydweithiau band eang a Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yng Nghymru, ewch i'n gwefan.
Y newyddion diweddaraf
30/06/09
Mae cwmnïau ym Merthyr Tudful wedi dod ynghyd i sefydlu clwb busnes arloesol newydd i roi hwb i’r economi leol a chynnig manteision uniongyrchol i’r dref.
23/06/09
Mae John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, wedi cyhoeddi y caiff dau brosiect sy’n buddsoddi dros £40 miliwn i helpu pobl sy’n economaidd anweithgar fynd yn ôl i’r byd gwaith ac addysg hwb ariannol o 10.5 miliwn.
Dolenni perthnasol
Strategaeth adfywio dros gyfnod o 15 mlynedd yw Rhaglen Blaenau'r Cymoedd sy'n cael ei datblygu mewn partneriaeth lawn â phum awdurdod lleol.
