Skip to content

Cyswllt Gwybodaeth

Dolenni perthnasol

Mae'r Ganolfan Cyswllt Cyntaf yn un o wasanaethau Llywodraeth Cymru lle gall y cyhoedd gael gafael ar unrhyw ddogfen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Caiff un copi o bob dogfen y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyhoeddi mewn print ei anfon i bob llyfrgell.

Prosiect blaengar ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru yw Cyswllt Gwybodaeth. Pwrpas y prosiect yw darparu gwybodaeth i'r cyhoedd am Lywodraeth Cymru a chan Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng rhwydwaith o lyfrgelloedd penodedig ledled Cymru.

Caiff un copi o bob dogfen y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyhoeddi mewn print ei anfon i bob llyfrgell. Maent yn cael eu dosbarthu tua unwaith y mis, yn cynnwys y teitlau mwyaf diweddar, ynghyd a linciau'r we. Ymysg y cyhoeddiadau mae:

  • strategaethau
  • gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd
  • dogfennau polisi
  • pamffledi
  • ymgyngoriadau
  • posteri
  • ymchwil
  • canllawiau.

Mae pob llyfrgell wedi addo cadw'r wybodaeth am o leiaf chwe mis ac maent yn medru trefnu ac arddangos y cyhoeddiadau mewn dull sy'n gweddu orau i'w hamgylchiadau. Ar ôl chwe mis, mae rhai llyfrgelloedd yn penderfynu cadw dogfennau at ddeunydd cyfeiriadol neu oherwydd diddordeb lleol ac yn ymgorffori'r deunydd o fewn eu casgliadau.

Mae mynediad i'r rhyngrwyd ar gael yn y rhan fwyaf o'r llyfrgelloedd lle mae modd defnyddio gwefan Llywodraeth Cymru i weld ein cyhoeddiadau diweddaraf. Hefyd gallwch edrych yn ein catalog ar-lein sy'n rhestru pob cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ac yn rhoi ffurflen archebu ar-lein y gellir ei hanfon i'r Ganolfan Gyhoeddiadau.

Ble mae’r Llyfrgelloedd Cyswllt?

Gogledd Cymru

  • Bae Colwyn
  • Llanrwst
  • Caernarfon
  • Dolgellau
  • Y Rhyl
  • Llandudno
  • Wrecsam
  • Llangefni
  • Yr Wyddgrug.

Canolbarth a Gorllewin Cymru

  • Aberhonddu
  • Hwlffordd
  • Aberteifi
  • Llandrindod
  • Aberystwyth
  • Llanelli
  • Caerfyrddin
  • Y Drenewydd
  • Doc Penfro.

De Cymru

  • Aberdâr
  • Cwmbrân
  • Abertawe
  • Maesteg
  • Merthyr Tudful
  • Caerdydd - Y Llyfrgell Ganolog
  • Caerdydd – Llyfrgell
  • Port Talbot
  • Grangetown
  • Penarth
  • Cas-gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Casnewydd - Y Llyfrgell Ganolog
  • Pontypridd
  • Castell-nedd
  • Treorci
  • Coed-duon
  • Y Barri.