Addysg Bersonol a Chymdeithasol Hafan
Croeso i wefan canllawiau addysg bersonol a chymdeithasol.
Beth yw addysg bersonol a chymdeithasol?
Addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) yw popeth y bydd ysgol neu goleg yn ei wneud i gynnal a hybu datblygiad personol a chymdeithasol eu pobl ifanc. Mae’n cynnwys cyfleoedd dysgu yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi.
Mae’r wefan hon yn cynnig gwybodaeth am ABCh i bawb sydd wrthi’n cyflwyno ABCh eang, gytbwys mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mae’n darparu:
- cysylltiadau â’r fframwaith anstatudol, Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
- esboniadau ar yr ymagwedd thematig at ABCh
- cyngor am reoli a chydlynu agwedd gyfannol at ABCh
- mynegbyst at ffynonellau cymorth
- astudiaethau achos sy’n dangos sut i lwyddo i sicrhau deilliannau dysgu’r cyfnodau allweddol o’r fframwaith ABCh.
Os ydych am gael mwy o wybodaeth ynglyn ag addysg bersonol a chymdeithasol, anfonwch e-bost at Ymholiadau addysg bersonol a chymdeithasol: Personalandsocialeducationenquiries@wales.gsi.gov.uk.
Gwerthuso Gwefan Canllawiau Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n helpu i gyflwyno ABCh yng Nghymru.
Rydym am wybod a yw’r wefan yn diwallu eich anghenion. Byddem yn gwerthfawrogi cael eich barn, a byddwn yn ei defnyddio i wella’r wefan yn y dyfodol.
E-bostiwch eich sylwadau.
