Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gemau Olympaidd yn dod i’r Eisteddfod Genedlaethol

Bydd yr ymwelwyr sy’n dod i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn gallu dilyn y Gemau Olympaidd diolch i sgrin fawr a fydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dydd Iau 26 Gorffennaf 2012

Bydd sgrin fawr ar y maes yn dangos Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn fyw drwy gydol wythnos gyfan yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg.

Meddai Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg:

“Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu darparu’r cymorth hwn i ddigwyddiad diwylliannol mwyaf Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol. Rydw i’n siŵr y bydd gan bobl lawer o ddiddordeb yng Ngemau Llundain 2012, a nawr bydd y degau o filoedd o bobl sy’n dod i Fro Morgannwg ar gyfer yr Eisteddfod eleni yn gallu dilyn y cyffro i gyd.”

Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru,

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ddarparu sgrîn fawr er mwyn i’n hymwelwyr ni gael mwynhau’r Gemau Olympaidd yn ystod yr Eisteddfod eleni.  

"Rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr o bobl yn manteisio ar yr adnodd hwn ac yn dod i fwynhau’r Gemau yn awyrgylch arbennig y Brifwyl, yn Llandŵ.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gemau 2012

Tagiau

Y Gymraeg 26 Gorffennaf 2012 Gemau olympaidd 2012 Programme for Government - Culture and Heritage Yr Iaith Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i