Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, wedi cyhoeddi saith penodiad i Gyngor Partneriaeth newydd y Gymraeg. Bydd y penodiadau hyn yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 hyd at 31 Mawrth 2015.
Sefydlwyd y Cyngor Partneriaeth o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Cyngor Partneriaeth yn gyfrifol am roi cyngor a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â strategaeth y Gymraeg Gweinidogion Cymru a fabwysiadwyd o dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mewn perthynas â chynlluniau gweithredu blynyddol Gweinidogion Cymru o dan y strategaeth.
Yr aelodau newydd yw: Dr Lowri Angharad Ahronson, Efa Catrin Gruffudd Jones, Owain Siôn Gruffydd, Catherine Baldwin, Sali Burns, Hywel Jones, Dr Rhodri Llwyd Morgan. Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau fydd Cadeirydd y Cyngor Partneriaeth.
Nid yw aelodau’r Cyngor Partneriaeth yn cael eu talu, ond yn cael eu had-dalu ar gyfer costau teithio a chynhaliaeth resymol. Mae ganddynt ymrwymiad amser o leiaf dri diwrnod y flwyddyn.
Dywedodd Mr Andrews:
“Mae sefydlu Cyngor Partneriaeth newydd y Gymraeg yn enghraifft arall o ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi a datblygu’r iaith Gymraeg. Ym mlwyddyn gyntaf y Cynulliad hwn, rydyn ni wedi cyflwyno newidiadau cyflym ac ystyrlon i agenda y Gymraeg.
Bydd y penodiadau hyn yn rhoi mwy o syniadau, mwy o gymorth, a heriau newydd i Weinidogion wrth inni ddechrau rhoi Strategaeth newydd y Gymraeg ar waith, ac wrth inni weithredu ein Cynllun Gweithredu ar gyfer 2012-13.”
Er nad yw’r penodiadau hyn yn dod o fewn cylch gorchwyl Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus fe ystyriwyd egwyddorion Nolan wrth wneud y penodiadau.
Mae pob penodiad yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod.
Aelod #1: Dr Lowri Angharad Ahronson – Cyfarwyddwr Cynllun Iaith Gymraeg, Prifysgol Bangor
Aelod #2: Efa Catrin Gruffudd Jones, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru
Aelod #3: Owain Siôn Gruffydd – Prif Weithredwr, Menter Bro Dinefwr a Trywydd
Aelod #4: Catherine Baldwin, Swyddog Iaith Gymraeg, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Aelod #5: Sali Burns, Nyrs Iechyd Meddwl Cofrestredig, Gwasanaethau Seicolegol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Aelod #6: Hywel Jones, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin
Aelod #7: Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol, Cyngor Sir Ceredigion











