Mae gwasanaeth y Bwcabus wedi trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yng ngorllewin Cymru, a bydd yn cael ei ymestyn gyda £400,000 o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, cyfanswm o £600,000 gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion, yn ogystal â £1.8 miliwn gan WEFO.
Yn dilyn ei lwyddiant gwreiddiol, bydd gwasanaeth y Bwcabus, sef un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu, yn ymorol am ardaloedd ychwanegol newydd yng ngogledd Sir Gaerfyrddin a Dyffryn Teifi, gan gynnwys Llanbedr Pont Steffan, Llanybydder, Felinfach a Llangeithio.
Wrth siarad cyn y lansiad, meddai Carl Sargeant:
"Mae Bwcabus yn wasanaeth arloesol sy’n ymateb i alw, ac mae wrthi’n trawsnewid trafnidiaeth yn ardaloedd gwledig gorllewin Cymru.
"Mae’r gwasanaeth poblogaidd hwn yn chwarae rhan hollbwysig yn helpu pobl i gyrraedd gwasanaethau allweddol, teithio i’r gwaith, manteisio ar hyfforddiant a chyfleoedd addysgol eraill – ac mae hyn i’w groesawu’n fawr yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni.
"Mae ein gallu i arloesi wrth ddarparu gwasanaethau bws lleol eisoes wedi cael sylw ledled y DU, ac rwy’n hynod falch o weld bod y gwasanaeth arloesol hwn yn mynd o nerth i nerth."
Cafodd y syniad o’r Bwcabus ei ddatblygu gan Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg, ac fe wnaeth 13,246 o deithiau teithwyr yn ystod ei flwyddyn gyntaf, sef 2011.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei deilwra yn ôl anghenion y teithwyr trwy ymateb i geisiadau am deithiau a archebir o flaen llaw.
Mae teithwyr yn gallu archebu taith o’r tŷ, boed ar y ffôn neu ar y we, i gysylltu â gwasanaethau cyffredinol y bysiau a’r trenau.
Mae’r gwasanaeth yn galluogi pobl i deithio rhwng trefi a phentrefi o fewn ardal y Bwcabus, neu gysylltu, trwy ganolfannau lleol, â’r prif wasanaethau bws sy’n teithio i lefydd megis Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, Caerfyrddin, Castell Newydd Emlyn, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Phencader.











