Mae'r Bartneriaeth yn gweithio ar draws Bro Morgannwg i atal pob math o droseddu ac anrhefn fel cam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau a throseddu casineb. Mae hefyd yn rhedeg nifer o raglenni ieuenctid ac yn gweithredu prosiectau sy'n mynd i'r afael â'r ofn troseddu sydd ar bobl er mwyn helpu'r bobl leol i deimlo'n ddiogel yn eu cartref a'u cymuned.
Diolch i'w hystafell sydd newydd ei hailwampio, mae'r Bartneriaeth yn helpu nifer o gyrff i gynnal gweithdai atal troseddu bob dydd.
Meddai Carl Sargeant:
"Fe all pob math o droseddu ddifetha cymuned, felly mae'n bwysig bod gan gyrff fel Partneriaeth Bro Ddiogelach y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw i fynd at wraidd y problemau.
"Mae'r ystafell newydd yn lle gwych i grwpiau gwahanol ymgynnull i edrych ar ffyrdd o ddatrys y problemau sy'n effeithio arnyn nhw a'u cymuned. Hyd yn hyn, mae grwpiau fel y grŵp gwarchod cymdogaeth lleol a'r uned cyfeirio disgyblion wedi manteisio ar y cyfleusterau, a gobeithio y bydd llawer mwy yn elwa ar yr hyn sy'n cael ei gynnig.
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl gymdogaethau yn lleoedd diogel i fyw, ac mae'n rhedeg nifer o fentrau i fynd i'r afael â materion ynghylch diogelwch cymunedol. Rydyn ni'n cefnogi Partneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol ledled Cymru, ac rydyn ni hefyd yn gweithredu Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan."











