Cyhoeddodd Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, y bydd cyllid gwerth £4,220,244 yn cael ei rannu gan 23 o brosiectau ledled Cymru. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu i fudiadau cymunedol a gwirfoddol i’w helpu i ddatblygu cyfleusterau a gwasanaethau newydd.
Fe wnaeth y Gweinidog gyhoeddi’r cyllid yn ystod ymweliad â Chanolfan Gymunedol Trecenydd yng Nghaerffili. Yn gynharach eleni, dyfarnwyd cyllid CFAP gwerth bron i £121,000 i’r ganolfan er mwyn gwneud gwaith ailwampio sylweddol ar y safle. Fel rhan o’r gwaith hwn, cafodd y fynedfa a’r prif gyntedd eu gwella, cafodd cegin a bar coffi newydd eu gosod, a chafodd y swyddfeydd eu hadnewyddu.
Gyda’r gwaith wedi’i gwblhau erbyn hyn, aeth y Gweinidog ar ymweliad â’r ganolfan i weld sut mae’r arian wedi gwella’r safle er budd y gymuned leol.
Wrth siarad yng Nghanolfan Gymunedol Trecenydd, meddai Carl Sargeant:
“Mae’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol yn parhau i wneud gwahaniaeth go iawn i grwpiau cymunedol a gwirfoddol ledled Cymru.
“Mae’n wych cael bod yma yng Nghanolfan Gymunedol Trecenydd i weld sut mae’r gymuned leol wedi cael budd o grant blaenorol a ddyfarnwyd iddo. Rwy’n falch hefyd y bydd y cyllid rwyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn adfywio llawer o gymunedau yng Nghymru. Mae’r canolfannau hyn yn hollbwysig i adfywio ein cymunedau a’u cadw’n iach.
“Mae gan gyllid o’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol effaith gadarnhaol ar gymunedau Cymru ac ar fywydau pobl leol o ddydd i ddydd. Mae’r rhaglen yn caniatáu i fudiadau cymunedol a gwirfoddol ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau sy’n rhoi’r cyfle i bobl leol ddod ynghyd a rhoi cynnig ar bethau newydd.”











