Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Undebau credyd – dibynadwy, diogel a lleol, meddai Gweinidog

Mae llawer o bobl yn yr hinsawdd economaidd gyfredol, yn enwedig y rheini sydd ar incwm isel, o dan bwysau ariannol cynyddol ac efallai y byddan nhw'n ystyried troi at fenthycwyr arian anghyfreithlon neu rai sy'n codi llog uchel.
Dydd Mercher 11 Tachwedd 2009
Dr Brian Gibbons gyda Cassie Bodington o Undeb Credyd Caerdydd

Mae undebau credyd yn fodd diogel a dibynadwy o fenthyg a chynilo arian. Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl yng Nghymru yn aelodau o undebau credyd ac nid yw pobl yn deall beth yn union yw undebau credyd na pha gymorth a chyngor y gallan nhw eu rhoi.

Er mwyn helpu i ddatrys y sefyllfa hon, mae Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, wedi lansio ymgyrch Cymru gyfan i godi proffil ac ymwybyddiaeth o undebau credyd yng Nghymru. Roedd y Gweinidog yng nghanol Caerdydd gydag aelodau Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro i ddatgelu brand newydd Undebau Credyd Cymru a siarad â siopwyr am fanteision ymuno ag Undeb Credyd.

Meddai Dr Gibbons:

"Dros y degawd diwethaf mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi pwyslais mawr ar undebau credyd ar yr agenda cyfiawnder cymdeithasol, yn bennaf oherwydd y rôl y maen nhw'n ei chwarae fel darparwyr gwasanaethau cynilo fforddiadwy a benthyciadau rhad.

"Nawr mae gan bob rhan o Gymru undebau credyd, ac mae modd i bawb sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru fod yn aelod o undeb o’r fath. Er gwaethaf hynny dim ond 1.83% o'r farchnad sydd wedi ymuno ag undeb o'i gymharu â 5.58% yn yr Alban.

"Mae recriwtio aelodau newydd yn her barhaus. Nod yr ymgyrch hon yw gwneud y cyhoedd, yn enwedig y rheini ar incwm isel, yn fwy ymwybodol o undebau credyd. Mae hefyd ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector sy'n gallu helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith eu staff a'u cleientiaid. Mae brand Cymru gyfan, Undebau Credyd Cymru, wedi'i ddatblygu, gyda'r rhif ffôn am ddim 0800 496 0865 neu'r wefan www.wales.gov.uk/creditunions i gael rhagor o wybodaeth.

"Hoffwn gyfleu'r neges bod undebau credyd yn ddibynadwy; yn yr hinsawdd economaidd gyfredol maen nhw'n cynnig benthyciadau â gwerth arbennig ac yn gallu helpu cleientiaid i ofalu am eu harian; yr aelodau sy'n berchen ar yr undeb yn hytrach na rhanddeiliaid allanol sydd am wneud elw. Rheoleiddir yr Undebau yn llwyr gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol. Byddwn yn annog pawb i ymuno â'u hundeb credyd lleol, nid dim ond y rheini heb arian neu heb lawer o arian,"

11 Tachwedd 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 11 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i