Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog na fyddai’n rhoi ar waith yr un o’r adolygiadau etholiadol a argymhellwyd gan y Comisiwn cyn etholiadau lleol 2012. Dywedodd, fodd bynnag, y byddai’n sefydlu adolygiad annibynnol o’u rhaglen waith.
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar bolisïau, amcanion gweithredol a gweithdrefnau’r Comisiwn, ac yn nodi camau i wneud yn siŵr bod rhaglen o ansawdd uchel i adolygu trefniadau etholiadol yn cael ei darparu erbyn etholiadau 2016.
Meddai’r Gweinidog:
"Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi penodi Glyn Mathias i arwain yr adolygiad hwn. Mae gan Glyn gyfoeth o arbenigedd perthnasol, ac rwy’n siŵr y bydd yr amser a dreuliodd fel Comisiynydd gyda’r Comisiwn Etholiadol yn werthfawr tu hwnt."
Ychwanegodd Glyn Mathias:
"Mae’n hanfodol i’n system ddemocrataidd bod y broses o adolygu’r trefniadau etholiadol ar lefel llywodraeth leol yn gadarn, yn rhesymol ac yn annibynnol o bleidiau gwleidyddol a’r llywodraeth.
"Gobeithio y bydd yr adolygiad hwn o waith y Comisiwn yn cryfhau ei annibyniaeth ac yn gwella ansawdd y gwaith a wneir ganddo."
Nodyn Bywgraffyddol
Mae Glyn Mathias yn gyn newyddiadurwr gwleidyddol ac yn gyn aelod dros Gymru o’r Comisiwn Etholiadol. Yn ystod ei yrfa fel newyddiadurwr gwleidyddol, bu’n olygydd gwleidyddol ar gyfer ITN yn Llundain a BBC Wales. Aeth ymlaen i wasanaethu fel Aelod o’r Comisiwn Etholiadol. Yn y swydd hon, bu’n gyfrifol am adolygu ffiniau yn Lloegr, a chynrychiolodd Gymru ar y bwrdd llunio polisïau.
Nid oes gan Mr Mathias ymlyniad ag unrhyw blaid wleidyddol, CLlLC na’r Comisiwn ei hun.











