Mae’r prosiect tair blynedd Dull Tiriogaethol o Newid Hinsawdd (TACC) yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn partneriaeth â Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig ac mae’n cael ei ariannu gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol y Deyrnas Unedig.
Bydd y prosiect TACC yn cryfhau ymhellach y cysylltiad rhwng Cymru a rhanbarth Mbale sydd â pherthynas hir rhyngddynt bellach yn rhan o raglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Ym mis Mawrth, collodd dros 300 o bobl eu bywydau yn Mbale yn Nwyrain Uganda oherwydd tirlithriad. Y rheswm dros y trychineb hwn oedd datgoedwigo a glaw anarferol o drwm.
Ffermwyr hunangynhaliol yw’r mwyafrif o’r boblogaeth yn y rhan hon o Mbale ac felly, maent yn agored iawn i effeithiau newidiadau ym mhatrwm y tywydd.
Nod TACC yw cynyddu fforestydd a helpu cymunedau lleol yn y rhanbarth i addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Nid yn unig bydd yn helpu pobl Mbale i ddeall beth mae’r newid yn yr hinsawdd yn ei olygu iddyn nhw ond bydd yn eu helpu i fanteisio ar y camau gweithredu fydd yn eu cynorthwyo i ymdopi hefyd.
Mae gwaith i blannu miliwn o goed eisoes wedi dechrau'
r wythnos hon er mwyn cynnal ardal o fforestydd trofannol yn Affrica sydd yr un maint â Chymru. Nid yn unig bydd y coed hyn yn amsugno carbon ond byddant yn darparu cysgod i gnydau hefyd.
Dywedodd John Griffiths, y Cwnsler Cyffredinol:
"Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Ranbarthol Mbale i’w cynorthwyo i allu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.
"Mae pobl yng Nghymru yn gweithio’n galed i gefnogi’r frwydr yn erbyn tlodi byd-eang ac maent yn awyddus i helpu pobl yn Affrica Is-Sahara i greu gwell cyfleoedd bywyd i’w hunain. Ar yr un pryd, mae’r manteision i bobl Cymru yn sylweddol hefyd. Trwy gydweithio, rydym yn gwybod y gall cymunedau a sefydliadau ar lawr gwlad yng Nghymru ac Affrica wneud gwahaniaeth wrth fynd i’r afael â’r heriau gwirioneddol sy’n wynebu ein byd heddiw."
Dywedodd Apollo Mwenyi, un o gydgysylltwyr prosiect Uganda:
"Rydym yn hapus iawn i weithio gyda Chymru. Rwy’n gwybod bod gan y ddwy wlad lawer i’w ddysgu oddi wrth ei gilydd.
"Rwyf am i bobl Cymru ddeall nad rhywbeth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol yw newid yn yr hinsawdd – mae’r newid yn digwydd nawr. Mae’r tywydd wedi newid yn sylweddol, mae’r tymheredd yn uwch ac mae mosgitos a malaria bellach mewn ardaloedd oedd gynt yn rhy oer."











