Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Jane Hutt yn cyhoeddi buddsoddiad o £12.7 miliwn i wella gwasanaethau

Cafodd y dyraniadau diweddaraf o’r Gronfa Buddsoddi i Arbed eu cyhoeddi gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid.
Dydd Mawrth 19 Mehefin 2012

Drwy’r fenter Buddsoddi i Arbed, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i sefydliadau’r gwasanaethau cyhoeddus i’w helpu i gyflwyno dulliau newydd, a/neu hen ddulliau llwyddiannus, o weithio i gyflwyno gwelliannau i’r gwasanaethau cyhoeddus a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau.

Mewn datganiad i’r Cyfarfod Llawn, dywedodd Jane Hutt:

"Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol wrth gefnogi sefydliadau cyhoeddus i’w helpu i ateb yr her o ostwng cyllidebau, ac ar yr un pryd gyflwyno gwasanaethau o safon. Mae nawdd Buddsoddi i Arbed yn enghraifft ymarferol o’r gefnogaeth honno.

"Ers cyflwyno’r Gronfa, mae’r cyllid wedi cefnogi dros 50 o brosiectau, a £52 miliwn eisoes wedi’u buddsoddi.

"Yn sgil llwyddiant y fenter hyd yma, rwy wedi penderfynu cynyddu maint y Gronfa. Rwy’n buddsoddi £20 miliwn ychwanegol dros y flwyddyn hon a thros y ddwy flynedd ariannol nesaf – gan gychwyn gyda £10 miliwn yn 2012-13. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn sicrhau cynaliadwyedd y Gronfa."

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd ei chynlluniau i fuddsoddi  £12.7 miliwn i gefnogi saith prosiect newydd, sydd, at ei gilydd, yn rhagamcanu arbedion blynyddol o £74 miliwn o leiaf.  

Mae hyn yn cynnwys:

  • £7.5 miliwn i dri chynllun a arweinir gan Fyrddau Iechyd Lleol – Hywel  Dda, Caerdydd a’r Fro, a Chwm Taf. Bydd y prosiectau hyn yn ymdrin â’r mater o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl hŷn ac i bobl sy’n fregus eu hiechyd yn ein cymunedau;
  • Cymorth ar gyfer cam nesaf dull caffael cydweithredol y GIG ar gyfer gwasanaethau adsefydlu ym maes iechyd meddwl; a
  • Darpariaeth i’r GIG i gefnogi gwaith peilot i archwilio manteision posibl gwneud defnydd mwy helaeth o restri/amserlenni electronig, er mwyn cynorthwyo Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan i gyflwyno dulliau Rheoli Meddyginiaethau ym maes gofal eilaidd, ac er mwyn parhau i gefnogi cyflwyno rhoi cynllun y GIG i ryddhau pobl o’u gwaith o’u gwirfodd yn gynnar.  

Ychwanegodd Jane Hutt:

"Mae’r prosiectau a noddwyd gan y Gronfa Buddsoddi i Arbed wedi profi bod cydweithio mewn modd arloesol yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Drwy gydgysylltu gwasanaethau a chydweithio â’n gilydd, gallwn sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio gwasanaethau effeithiol a rhai o ansawdd uchel, ac ar yr un pryd ddefnyddio’r cyllid cyfyngedig sydd ar gael yn y modd mwyaf effeithiol."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Gronfa Buddsoddi i Arbed

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 19 Mehefin 2012 Arwain Cymru allan o'r dirwasgiad Llwyddo â llai Programme for Government - Public Services Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i