Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymorth gwerth £14 miliwn y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon ac arloesol

Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, wedi cadarnhau y bydd £14 miliwn ar gael y flwyddyn nesaf, ynghyd â dyraniadau pellach yn ystod y ddwy flynedd ganlynol, er mwyn helpu’r sector cyhoeddus ateb yr her o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol ac effeithlon.
Dydd Mercher 16 Chwefror 2011

Dyrannwyd £5 miliwn o'r £14 miliwn ar gyfer 2011-12 eisoes i Addasu (Adapt), gwasanaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n cynnig un lle i fynd er mwyn cael cyngor Newid Gyrfa, a lansiwyd gan y Gweinidog a Lesley Griffiths, y   Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, yr wythnos ddiwethaf. Addasu  yw'r cynllun i helpu gweithwyr yn y sector cyhoeddus sydd wedi colli'u swyddi i ddychwelyd i'r byd gwaith a meithrin sgiliau newydd er mwyn dod o hyd i waith, a hynny gan ddatblygu llwyddiant prosiectau tebyg a oedd yn targedu'r sector preifat. Y mae hefyd yn cynnig cymhorthdal i gwmnïau sy'n cyflogi pobl sydd wedi'u gwneud yn ddi-waith. Bydd Addasu yn derbyn rhagor o arian yn y dyfodol.

Bydd yr arian hefyd yn helpu i gefnogi'r ffordd y mae sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau drwy gefnogi arloesedd a phrosiectau sy'n gwella effeithlonrwydd. Gellir ei ddefnyddio i greu cyfleoedd i sefydliadau gydweithio er mwyn lleihau costau a gwella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu ynghyd ag ateb yr her i'r gweithlu.

Wrth annerch 6ed cyfarfod y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi yng Nghaerdydd heddiw, dyweddodd y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb:

"Bydd yr arian hwn yn helpu sefydliadau yn y sector cyhoeddus dros y tair blynedd nesaf i drosglwyddo i ddulliau mwy effeithlon ac arloesol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n falch iawn o ddweud, drwy ein cynllun Addasu, a ddatblygwyd gan y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi, bydd cymorth parhaol ar gael ar gyfer y gweithwyr hynny sy'n wynebu colli eu swyddi ac ar gyfer y cyflogwyr hynny sy'n gorfod diswyddo'u gweithwyr."

Yn ogystal, yng nghyfarfod y Bwrdd cyhoeddodd y Gweinidog hefyd bedwaredd rownd y Gronfa Buddsoddi i Arbed. Sefydlwyd y Gronfa yn 2009 i roi cymorth i sefydliadau yn y sector cyhoeddus drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio er mwyn sicrhau eu bod yn fwy effeithlon ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus safonol. 

Dywedodd y Gweinidog:

"Unwaith eto, mae'r gronfa yn agored i geisiadau newydd ac rwy'n annog cyrff cyhoeddus i'w defnyddio er mwyn eu helpu i ddatblygu prosiectau.

"Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi buddsoddi tua £37 miliwn mewn 42 o brosiectau gwella a heddiw rwy'n cyhoeddi y byddwn yn gofyn am geisiadau newydd er mwyn defnyddio'r £3.6 miliwn sydd ar gael yn dilyn ad-daliadau gan brosiectau a gymeradwywyd eisoes ac sydd erbyn hyn wedi elwa arno.

"Drwy'r Gronfa, byddwn yn cefnogi gwaith y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi ac yn annog mwy o gydweithredu pan fydd y dull o weithredu yn ychwanegu gwerth, arbed arian ac yn bwysicach fyth yn sicrhau gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel.

Yn y cyfarfod, cytunodd y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi hefyd i:

  • gyhoeddi Ymateb i Her Newid: ein dull cyffredin o gyflawni effeithlonrwydd ac arloesi o fewn Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy'n pennu dull o weithredu'r Bwrdd ynghyd â'i waith;
  • cefnogi 'gorchymyn ar gyfer newid' penodol er mwyn annog systemau, swyddogaethau a gweithgareddau TGCh integredig ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, er enghraifft drwy gronni cyllidebau ar gyfer  buddsoddi mewn TGCh;
  • cadarnhau argymhellion adolygiad y tasglu Caffael Cydweithredol, sydd wedi'u hanelu at sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael gwell gwerth am arian wrth gaffael a hynny yng nghyd-destun ein Rhaglen Adfywio Economaidd.
  • cadarnhau'r gwaith o ddatblygu fframwaith mesur i ddangos y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran yr agenda effeithlonrwydd ac arloesi ehangach.
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Gwella gwasanaethau cyhoeddus 16 Chwefror 2011 Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i