Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â digartrefedd

Wrth annerch cynhadledd Shelter Cymru, dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth fod cael gwared ar ddigartrefedd, gan gynnwys digartrefedd ymhlith teuluoedd, yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Dydd Iau 28 Mehefin 2012

Yn y gynhadledd yng Ngwesty’r Marriot yn Abertawe, tynnodd sylw at y Papur Gwyn ar Dai a gyhoeddwyd y mis diwethaf. Mae’r Papur yn disgrifio cynlluniau Llywodraeth Cymru i gymryd camau deddfwriaethol ac ymarferol i fynd i’r afael â digartrefedd a phroblemau eraill yn y sector tai.

Dywedodd:

"Er gwaethaf y gwaith gwych sydd wedi’i gyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf i atal pobl rhag mynd yn ddigartref, mae’r niferoedd wedi dechrau codi unwaith eto oherwydd y dirwasgiad ac effaith y newidiadau i fudd-daliadau lles.

"Yn y gorffennol doedd dim llawer o opsiynau gennym, ond gyda’n pwerau newydd mae’r sefyllfa wedi newid. Nawr, gallwn ni gyflawni mwy, ac rydyn ni’n benderfynol o wneud hynny o hyn ymlaen.

"Cafodd ein cynigion ar ddigartrefedd eu datblygu ar ôl cynnal prosiect ymchwil ac ymgynghori sylweddol yr oedd rhanddeiliaid o’r holl sectorau wedi cymryd rhan ynddo. Roedd y prosiect hefyd wedi ystyried profiadau gwledydd eraill, yn ogystal ag edrych ar ein deddfwriaeth bresennol. Dw i’n ffyddiog ein bod yn llunio set o fesurau a fydd yn cael sêl bendith llawer iawn o bobl ac a fydd yn cael effaith go iawn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

"Wrth wraidd y cynigion hyn y mae’r ffaith ein bod yn benderfynol i roi lle canolog i atal digartrefedd yn y dyletswyddau a roddir ar awdurdodau lleol. Dw i’n awyddus i weld y ddeddfwriaeth yn arwain at wasanaethau sy’n canolbwyntio ar atal digartrefedd trwy ddatrys problemau tai cyn iddyn nhw waethygu."

Hefyd, siaradodd y Gweinidog am yr angen inni i gyd weithio gyda’n gilydd os ydym am lwyddo i fynd i’r afael â digartrefedd:

"Er mai ar yr awdurdod lleol y bydd y ddyletswydd sylfaenol i gymryd camau i ddatrys problemau sy’n ymwneud â thai, rhaid pwysleisio ein bod yn disgwyl i’r sectorau eraill, gan gynnwys y sector gwirfoddol, gymryd camau i gefnogi ein hymdrechion.

"Mae’r sector rhentu preifat yn adnodd hanfodol sy’n rhoi dewisiadau i bobl a fyddai fel arall yn ddigartref. Y realiti hwnnw sy’n cael ei adlewyrchu yn ein cynnig i ganiatáu i’r brif ddyletswydd o ran digartrefedd gael ei chyflawni trwy ddefnyddio llety o ansawdd da yn y sector rhentu preifat. Er mwyn ategu hyn, bydd yna gynigion eraill yn y Papur Gwyn ar gyfer gwella safonau a dulliau rheoli yn y sector rhentu preifat.

"Rhaid i bawb yn y sector gydweithio i wella’r sefyllfa ac i addasu i’r amgylchiadau newydd o ran budd-daliadau lles, gan weithio hefyd gydag asiantaethau sy’n gosod eiddo cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu dod o hyd i lety addas lle bynnag y bydd hynny’n bosibl."

Nod y Papur Gwyn ar Dai, a fydd yn arwain at y Bil Tai yn 2013, yw sicrhau’r canlynol ar gyfer y dyfodol:

  • Bydd gan bawb gartref fforddiadwy sy’n bodloni ei anghenion
  • Ni fydd digartrefedd fel y cyfryw yn bodoli
  • Bydd pob cartref mewn cyflwr da ac yn cyrraedd y safonau priodol
  • Gwelir rhentu fel opsiwn sydd yr un mor dda â phrynu
  • Bydd modelau newydd fel tai cydweithredol yn elfennau pwysig o’r system dai
  • Bydd pobl yn cael eu helpu i fyw’n annibynnol a bydd cymorth ar gael i’r rheini y mae ei angen arnynt
  • Bydd mudiadau tai yn chwarae mwy o ran yn y gymuned ac yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
  • Bydd mudiadau yn cydweithredu’n well gan integreiddio eu hymdrechion yn effeithiol.

Mae’r ymgynghoriad ar y ddogfen ar agor tan 17 Awst.

Wrth gloi ei anerchiad, disgrifiodd y Gweinidog ei obeithion ar gyfer y dyfodol, gan ddweud:

"Dw i’n awyddus i weld y Bil ar ei ffurf derfynol yn adlewyrchu’r ffaith bod materion yn ymwneud â thai yn rhan anhepgor o’n gweledigaeth gyflawn ar gyfer creu cymdeithas deg a chyfiawn. Golyga hynny bod yn rhaid creu systemau gwell i atal digartrefedd a helpu pobl i ddianc rhag tlodi.

"Mae pawb yn haeddu byw mewn cartref fforddiadwy o ansawdd da sy’n defnyddio ynni’n effeithiol. Trwy fanteisio ar eich arbenigedd chi, eich sgiliau a’ch brwdfrydedd, gallwn fwrw ati i wneud hynny’n realiti."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Digartrefedd Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell

Tagiau

Tai a chymunedau 28 Mehefin 2012 Programme for Government - Homes Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i