Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Adolygiad o Wasanaethau Cynghori

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o wasanaethau cynghori ar draws Cymru.
Dydd Mawrth 19 Mehefin 2012

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant y bydd yr adolygiad yn dechrau yn yr haf ac y bydd yn edrych ar sut y gellir datblygu rhwydwaith cynghori cadarnach, fel bod modd darparu gwasanaethau’n gyson ac yn gyffredinol ledled Cymru.

Dywedodd Carl Sargeant fod yr heriau anferthol sy’n wynebu Cymru yng ngoleuni’r newidiadau i’r system budd-daliadau a lles a gynigir gan Lywodraeth y DU wedi arwain at ei benderfyniad ef a Phrif Weinidog Cymru i gynnal yr adolygiad.

Yn hytrach na rhoi cyngor mewn modd tameidiog, meddai’r Gweinidog, roedd am weld rhwydwaith cynghori a all ymateb i anghenion unigolion ac a fyddai’n eu harwain at atebion mwy hirdymor.  Byddai’r rhain yn cael eu cynnig gan sefydliadau megis yr undebau credyd, fel dull fforddiadwy amgen i fenthycwyr cost uchel a chwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog.

Yn ogystal â rhoi cyngor ar sut i gynyddu incwm budd-daliadau, ychwanegodd y byddai dull o weithredu mwy cyffredinol hefyd o ran darparu cyngor ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys gwella sgiliau a hyder a darparu gwasanaethau mwy arbenigol ar gyfer camddefnyddio sylweddau, iechyd y meddwl neu drais domestig.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae gwasanaethau cynghori yn allweddol i ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi.  Mae’n angenrheidiol ein bod yn gwella’r mynediad i wasanaethau cynghori, yn enwedig o ystyried y newidiadau sydd ar y gweill i’r trefniadau lles a budd-daliadau a fydd yn newid y ddarpariaeth y tu hwnt i bob adnabyddiaeth.  Bydd hefyd goblygiadau sylweddol o ran sut y caiff cymorth ei ddarparu o ran derbyn budd-daliadau a chael mwy o gyngor.

"Mae’n bwysig fod y sefydliadau rydym yn cydweithio â nhw yn rhoi cyngor cyson a chywir i bobl ar y goblygiadau o ran diwygio lles.

"Mae’r sector cynghori hefyd yn wynebu cyfnod o newid na welwyd ei debyg o’r blaen.  Mae hyn yn cynnwys rhoi terfyn ar y Gronfa Cynhwysiant Ariannol (FIF), y gronfa cyngor wyneb-i-wyneb ar ddyledion; diwygio cymorth cyfreithiol; y pwysau ar gyllid llywodraeth leol ar gyfer gwasanaethau cynghori; a’r cyfan yn cael ei gymhlethu gan y dirywiad economaidd.  Mae hyn yn fygythiad i gapasiti’r gwasanaethau cynghori yng Nghymru, yn union ar yr adeg pan mae’r galw am eu gwasanaethau’n cynyddu."

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt:

"Un o’r blaenoriaethau ar gyfer yr adolygiad fydd edrych i weld sut y gellir datblygu rhwydwaith cadarnach o gyngor cyffredinol sy’n gwella ansawdd y gwasanaeth ac yn rhoi cymorth i bobl ar bob agwedd ar anghenion ariannol, tai a materion perthnasol eraill.  Bydd yr adolygiad hefyd yn nodi effaith toriadau cyllido, yn asesu lefelau’r galw dros y pum mlynedd nesaf, ac yn nodi sut y gellir defnyddio arian Llywodraeth Cymru’n fwyaf effeithiol i gefnogi rhwydwaith cyngor yng Nghymru.

"Bydd yr adolygiad hefyd yn helpu i gyflawni’r amcan yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, sef cryfhau’r gwasanaethau cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth i helpu pobl â nodweddion gwarchodedig i ddeall ac ymarfer eu hawliau a gwneud dewisiadau cytbwys."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Tai a chymunedau 19 Mehefin 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i