Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Wynebu her tai mewn ardaloedd gwledig

Mae’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, wedi ymweld heddiw â phrosiectau tai yn Llanbedr a Chrucywel i weld sut mae goresgyn problemau darparu tai mewn ardaloedd gwledig mewn modd unigryw drwy weithio’n agos gyda chymunedau.
Dydd Gwener 01 Mehefin 2012

Mae Swyddogion Galluogi Tai Gwledig wrthi’n gweithio gyda chymunedau lleol i ddod o hyd i safleoedd mewn ardaloedd gwledig a fyddai’n addas ar gyfer adeiladu tai er mwyn cynnal cymunedau gwledig a darparu tai ar gyfer pobl leol.

Mae cael tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig wedi bod yn broblem ers tro byd, yn arbennig mewn cymunedau yng Nghymru, a’r brif broblem fu’r gymhareb rhwng prisiau tai uchel ac incwm pobl leol.

Ar ôl lansio ei Bapur Gwyn Tai yr wythnos diwethaf, roedd y Gweinidog yn awyddus i gwrdd â nifer o’r sefydliadau sy’n bartneriaid er mwyn gweld sut y gellir mynd ati i ddarparu tai mwy fforddiadwy. Bydd y Gweinidog yn ymweld â dau gynllun Galluogi Tai Gwledig er mwyn cwrdd â’r Galluogwyr a gweld drosto’i hun ganlyniadau eu gwaith; y naill gynllun ar waith o hyd a’r llall wedi’i gwblhau a phobl wedi symud i mewn i’r tai. Mae’r Galluogwyr hefyd wrthi’n lansio eu gwefan newydd.

Dywedodd y Gweinidog,

“Rydym o dan bwysau mawr i ddarparu tai fforddiadwy ledled Cymru ac rydym oll yn ymwybodol nad oes digon o dai ar gael i gwrdd â’r angen. Fel y mae cyllidebau Llywodraeth Cymru yn cael eu crebachu mae lefel yr angen ar draws y wlad yn cynyddu.

“Mae’n dda gen i felly weld ein bod yn gallu parhau i gefnogi a chyllido’r prosiectau Galluogi Tai Gwledig ar draws Cymru wledig ac rwy’n arbennig o ddiolchgar o gael y cyfle i weld drosof fy hun y cymorth sy’n cael ei roi gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a sefydliadau eraill.

“Gwyddom fod y cyllidebau’n dynn, ond mae’n rhaid i ni barhau i wynebu’r her. Mae’r prosiectau ar gyfer Galluogi Tai Gwledig rwyf wedi dod yma heddiw i’w gweld yn cynnig help a chefnogaeth wirioneddol i filoedd o bobl y mae angen cartrefi arnynt mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru.”

Mae ymweliad y Gweinidog yn brawf o’i ymrwymiad hir i gynyddu’r cyflenwad tai, i wneud yn siŵr ein bod yn darparu’r math cywir o dai o safon ac i roi mwy o ddewis i bobl y mae angen cartref arnynt ledled Cymru, boed mewn ardaloedd trefol neu mewn ardaloedd gwledig.

Sefydlwyd Rhwydwaith Galluogi Tai Gwledig ledled Cymru yn 2008 a rhoddodd Llywodraeth Cymru £150,000 y flwyddyn i gefnogi sefydlu deg swydd ar gyfer Galluogwyr Tai Gwledig ar y cyd ag arian gan yr Awdurdodau lleol a phartneriaid o blith y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a chyrff eraill fel Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol.

Caiff y Galluogwyr Tai Gwledig eu cyflogi ledled Cymru i weithio gyda chymunedau i’w helpu i weld beth yw eu blaenoriaethau ac i helpu i ddod o hyd i atebion wrth ddarparu tai mewn ardaloedd gwledig. Mae’r gwaith a wnânt yn ategu mentrau eraill ar gyfer tai mewn ardaloedd gwledig megis defnyddio eiddo gwag unwaith eto, gwaith ymchwil penodol ar dai gwledig a defnyddio tir Llywodraeth Cymru mewn ardaloedd gwledig ar gyfer tai fforddiadwy drwy’r protocol rhyddhau tir.

Yn dilyn ei daith i ymweld â’r prosiectau ym Mhowys, aeth y Gweinidog i weld cynllun Cymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin yn Aberhonddu lle agorodd yn swyddogol ddatblygiad y Plough Court sy’n cynnig tai fforddiadwy i bobl leol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Strategaeth

Tagiau

Tai a chymunedau 01 Mehefin 2012 Programme for Government - Homes Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i