Nod y gwobrau a’r gynhadledd hon yw lledaenu ac ehangu arfer da a sicrhau bod y ddarpariaeth iaith Gymraeg yn rhan annatod o’r gofal. Yn dyngedfennol i hyn mae cyfrifoldeb y darparwr i ymroi i gynnig gwasanaethau Cymraeg.
Daw’r enillwyr o bob rhan o Gymru, gan ennill gwobrau am waith sy’n amrywio o awtistiaeth, niwed i’r ymennydd a gweithio gyda phlant (mae rhestr lawn o’r enillwyr yn y nodiadau isod).
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant:
“Mae’n hanfodol ein bod yn cynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd os ydym i lwyddo i wneud Cymru’n wlad wirioneddol ddwyieithog. Mae’r unigolion a’r timau sydd yma heddiw yn cael eu cydnabod am eu syniadau a’u gwaith caled, ac rydym yn ddiolchgar am eu hymdrechion.
“Mae diwylliant y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn bwysig iawn - ni allwn ddisgwyl i bawb gyfathrebu yn Gymraeg, ond gall pawb ddangos parch a bod yn sensitif i siaradwyr Cymraeg. Mae iaith yn rhan annatod o ofal a dylai pawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth sylweddoli nid yn unig bod iaith yn fater o ddewis - ond i nifer o ddefnyddwyr mae hefyd yn fater o angen.
“Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn flwyddyn dda. Gwelsom nid yn unig ddatblygiad fframwaith ar gyfer gwasanaethau Cymraeg, Mwy na Geiriau, a lansio Strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd gwelsom Gomisiynydd Iaith Gymraeg yn cael ei sefydlu a statws cyfreithiol yn cael ei roi i’r iaith Gymraeg. Bydd y datblygiadau hyn yn gefndir i’r gynhadledd heddiw ac i’r gwaith sydd i ddod dros y blynyddoedd nesaf.
“Yn olaf, mae yna nifer o staff sy’n gweithio yn ein gwasanaethau sy’n siarad Cymraeg, ond ‘does ganddyn nhw ddim o’r hyder i ddefnyddio’r iaith, gan feddwl nad yw eu Cymraeg yn ddigon da. Gwn o brofiad nad yw hyn yn aml yn wir. Mae angen inni eu hannog a’u cefnogi i gael yr hyder i ddefnyddio’r iaith - oherwydd gallant wneud gwahaniaeth go iawn. ‘Dyw hyn ddim i wneud â phawb yn gallu trafod terminoleg feddygol cymhleth yn Gymraeg, ond mae’n bwysig iawn ac yn weddol hawdd gwneud i’r claf deimlo’n gyfforddus wrth dderbyn gofal neu sylw meddygol.”
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:
“Roedd siarad yn y gynhadledd hon yn gyfle i mi rannu gwybodaeth ag ymarferwyr yn y maes iechyd a gofal am fy rôl fel Comisiynydd. Roedd hefyd yn gyfle i esbonio’r weithdrefn gyfreithiol newydd o safonau yn ymwneud â’r Gymraeg. Rydym ar ganol cyfnod ymgynghorol ar safonau drafft a bu’r gynhadledd yn gyfle i gyflwyno’r safonau hynny a chlywed sylwadau pobl amdanynt."











